Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi Aelodau - Dydd Iau, 24ain Awst, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Suzy Curry ac Alan Speake

 

2.

DATGANIADAU O FFUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

AELODAETH CYRFF ALLANOL pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor, yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol yn ddiweddar, y byddai angen i'r Awdurdod benodi cynrychiolwyr i nifer o gyrff allanol. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod enwebiadau ar gyfer penodiadau wedi'u cyflwyno ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgor, ar ôl ymgynghori ag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, ac roedd y rhain wedi'u nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, er bod mwyafrif yr enwebiadau ar gyfer seddau yn ddiwrthwynebiad, y byddai angen i'r Pwyllgor benderfynu pwy y dylid ei benodi i Bwyllgor Ysgoloriaeth Thomas ac Elizabeth Williams gan fod mwy o enwebiadau na nifer y seddau oedd ar gael, a rhoddodd amlinelliad cryno o feini prawf y Cynllun er gwybodaeth i'r aelodau.

 

Hefyd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd eu bod yn dal i aros am ddau enwebiad gan y Gr?p Llafur mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Cymunedol Hywel Dda a Phwyllgor Ysgoloriaeth Minnie Morgan.

 

PENDERFYNWYD bod penodiadau i gyrff allanol yn cael eu gwneud fel yr amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad,  yn amodol ar y canlynol:-

 

·         Ar sail blaenoriaethau'r cynllun o ran preswylfan, fod yr aelodau canlynol yn cael eu penodi i Bwyllgor Ysgoloriaeth Thomas ac Elizabeth Williams:-

 

Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a (6) o Gynghorwyr - Kim Broom, Tyssul Evans,  Amanda Fox, Jeanette Gilasbey, John James a Hugh Shepardson.

 

·         Bod yr enwebiadau sy'n weddill, fel y nodwyd yn Atodiad A, yn cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

 

 

 

 

4.

COFNODION - 14EG RHAGFYR, 2016 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2016.