Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiannau personol. |
|
CAIS AM AMRYWIO TRWYDDED SAFLE, POPLARS INN, GLAN YR AFON, TRE IOAN, CAERFYRDDIN SA31 3HU PDF 121 KB AR ÔL YMWELD Â'R SAFLE UCHOD, BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN Y SIAMBR, NEUADD Y SIR, CAERFYRDDIN AM 10.00 A.M. ER MWYN YSTYRIED UNRHYW SYLWADAU A PHENDERFYNU’R CAIS TRWYDDEDU UCHOD .
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 9.35 a.m. ac ailymgynnull am 9.45 a.m. ar safle'r Poplars Inn, Glan yr Afon, Tre Ioan er mwyn gweld lleoliad yr eiddo a chael cyfle i archwilio'r cyfleusterau mewnol ac allanol. Ar ôl i'r ymweliad safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.05 a.m. i ystyried y cais.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer o ddogfennau ychwanegol a ddosbarthwyd ar ddechrau'r cyfarfod a dywedodd wrth y rhai oedd yn bresennol, er mwyn rhoi cyfle i'r Is-bwyllgor a'r partïon oedd yn bresennol ddarllen y deunydd hwnnw, y byddai dechrau'r cyfarfod yn cael ei ohirio am 10 munud.
Ar ôl hynny, soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, gan ddweud wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr M. Howells am amrywio'r drwydded safle ar gyfer y Poplars Inn, Glan yr Afon, Caerfyrddin fel a ganlyn:-
I ganiatáu:
Cyflenwi Alcohol:- Dydd Llun tan ddydd Sul 07:00 – 01:30 Cerddoriaeth Fyw:- Dydd Llun tan ddydd Sul 23:00 – 01:00 Cerddoriaeth a Recordiwyd:- Dydd Llun tan ddydd Sul 11:00 – 01:00 Lluniaeth Hwyrnos:- Dydd Llun tan ddydd Sul 23:00 a 01:00
Oriau Agor:- Dydd Llun tan ddydd Sul 07:00 – 02:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Yn ychwanegol at y dogfennau uchod cafodd yr Is-bwyllgor, gyda chaniatâd yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol yr oedd wedi bod yn ofynnol yn gynharach i ohirio'r cyfarfod am 10 munud i roi cyfle i'r holl bartïon ddarllen y deunydd:
· E-bost gan Mr M. Price, Heddlu Dyfed-Powys, dyddiedig 5 Rhagfyr, a oedd yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr 21 o amodau roedd yr Heddlu yn eu cynnig, ac, o'r herwydd, fod yr Heddlu yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl · E-bost gan Mr A. Morgan, Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, dyddiedig 8 Rhagfyr, a oedd yn cadarnhau bod Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl, a hynny yn sgil dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch yr amodau roedd y Gwasanaethau yn eu hawgrymu, ac oriau gweithredu diwygiedig · E-bost gan y Cynghorydd A.D.T. Speake, dyddiedig 7 Rhagfyr, 2016, a oedd yn cyfeirio at ei e-bost blaenorol a anfonwyd ar 10 Tachwedd 2016 · Copi o'r Drwydded Safle mewn perthynas â'r Friends Arms, Tre Ioan, Caerfyrddin · Copi o'r Drwydded Safle ar gyfer y Poplars Inn, Tre Ioan, Caerfyrddin · Dogfen P/1 gan yr ymgeisydd mewn ymateb i nifer o faterion a godwyd fel rhan o'r Cais am Amrywio · Copi o lythyr cefnogi oddi wrth Mr a Mrs Evans, sef deiliaid rhif 1 Glan yr Afon, Tre Ioan, ger y Poplars Inn.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |