Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Mercher, 4ydd Hydref, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

ALEXANDER DANIELS - DEILIAD TRWYDDED BERSONOL pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd bod Mr Alexander Daniels, o 27 Brynawelon, Llanelli, SA14 8PU, yn dal trwydded bersonol gyda'r Awdurdod, a'i fod wedi ei gael yn euog o drosedd berthnasol a oedd yn gofyn ystyriaeth gan yr Is-bwyllgor.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd gan y partïon. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd Trwyddedu wybod i'r Is-bwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded bersonol Mr Daniels. Cafwyd sylwadau llafar hefyd gan gynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys a Mr Daniels. 

 

Rhoddwyd cyfle i bawb a oedd yn bresennol ofyn cwestiynau am y sylwadau a wnaed.

 

Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu y dylid ystyried atal neu ddiddymu trwydded bersonol Mr Daniels.

 

Felly bu i'r Is-bwyllgor:

 

BENDERFYNU YN UNFRYDOL cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol. 

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth o'i flaen, fod trwydded bersonol Mr Daniels yn cael ei hatal am gyfnod o 15 diwrnod.

 

Rhesymau

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

·   Bod Mr Daniels wedi dal trwydded bersonol ers mis Hydref 2019.

 

·   Cafwyd Mr Daniels yn euog o drosedd, sef gyrru dan ddylanwad alcohol, ar 01/02/2023. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 14 mis.

 

·   Doedd Mr Daniels ddim yn gallu rhoi sampl anadl wrth ymyl y ffordd. Yn hytrach, rhoddodd sampl gwaed yng ngorsaf yr heddlu. Roedd 125mg o alcohol yn y sampl gwaed. Y terfyn yw 80mg. Cafodd ei stopio gan yr heddlu am ei fod yn goryrru.

 

·   Ni wnaeth Mr Daniels hysbysu'r awdurdod trwyddedu ynghylch ei euogfarn.

 

·   Daeth yr euogfarn i'r amlwg dim ond yn sgil cais i amrywio'r Goruchwylydd Penodedig Safle ar gyfer safle ym mis Mehefin 2023.

 

·   Nid yw Mr Daniels wedi ei gael yn euog o drosedd gymwys o'r blaen.

 

·   Nid yw trwydded bersonol Mr Daniels wedi cael ei hatal na'i diddymu o'r blaen.

 

·   Byddai atal neu ddiddymu'r drwydded yn cael effaith andwyol ar fywoliaeth Mr Daniels.

 

·   Mae'r Is-bwyllgor yn nodi bod ganddo ddisgresiwn i atal neu ddiddymu trwydded Mr Daniels.

 

·   Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Heddlu.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a'r sylwadau, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon, ar sail yr hyn a oedd yn debygol, ei bod yn briodol atal trwydded bersonol Mr Daniels am 15 diwrnod er mwyn hyrwyddo'r amcan o ran atal troseddau yn Neddf Trwyddedu 2003. Y rheswm am hyn yw bod gan Mr Daniels, fel deiliad trwydded bersonol, gyfrifoldeb i helpu i atal eraill rhag cyflawni troseddau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys yfed a gyrru, ac felly mae'r ffaith ei fod wedi cyflawni'r drosedd hon yn peri pryder mawr.

 

Mae'r Is-bwyllgor o'r farn bod hyn yn ymateb cymesur i'r ffeithiau a roddwyd ger ei fron. Teimlai'r Is-bwyllgor y byddai diddymu'r drwydded neu gyfnod atal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.