Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin s Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan STAYBC Ltd am drwydded safle ar gyfer Angharad House, 86 ac 88a Heol y Frenhines Victoria, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2TH fel a ganlyn:-
Cais i Ganiatáu: · Cyflenwi Alcohol, dydd Llun i ddydd Sul 00:00-23:59 i Breswylwyr. Dydd Llun i ddydd Sul 09:00-23:00 ar gyfer pobl nad ydynt yn breswylwyr.
· Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 00:00 a 23:59. Preswylwyr yn unig ar ôl 23:00.
· Oriau Agor dydd Llun i ddydd Sul 00:00-23:59.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu AtodiadC - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd nad oedd unrhyw g?ynion wedi dod i law mewn perthynas â safle'r cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd pe bai'r Is-bwyllgor yn bwriadu caniatáu'r cais, ei bod yn briodol i'r amodau hynny gael eu hatodi i'r drwydded.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cafwyd sylwadau gan y Cynghorydd Sir ward leol A. McPherson a Mrs. C. Waldron, preswylydd lleol. Ailadroddodd y Cynghorydd McPherson y pwyntiau a godwyd yn ei sylwadau, fel y nodir yn Atodiad E i'r adroddiad, a gofynnodd Mrs. Waldron a fyddai'r ymgeisydd yn ystyried peidio â chaniatáu yfed alcohol y tu allan i'r safle, dim ond caniatáu cyflenwi alcohol i bobl nad ydynt yn breswylwyr rhwng 11am ac 11pm o ddydd Llun i ddydd Sul a sicrhau bod cwsmeriaid yn defnyddio'r maes parcio cefn wrth gyrraedd neu adael y safle
Rhoddwyd cyfle i bob parti holi'r Cynghorydd McPherson a Mrs. Waldron am eu sylwadau.
Ymatebodd yr ymgeisydd nad oedd ganddo wrthwynebiad i'r sylwadau lleol a wnaed.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron yr Is-bwyllgor, roi'r cais am drwydded safle ar gyfer Angharad House, yn amodol ar amodau'r drwydded y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol a'r newidiadau dilynol canlynol y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod gan yr ymgeisydd:
|