Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
AR ÔL YMWELD Â'R SAFLE UCHOD, BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN Y SIAMBR, 3 HEOL SPILMAN, CAERFYRDDIN AM 10.30 A.M. ER MWYN YSTYRIED UNRHYW SYLWADAU A PHENDERFYNU’R CAIS TRWYDDEDU UCHOD.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriwyd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Heol Spilman, Caerfyrddin am 10.05am ac ailddechreuwyd y cyfarfod ar y safle am 10.10am, er mwyn gweld y safle lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol a lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Heol Spilman, Caerfyrddin am 10.50am i ystyried y cais.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor bod cais wedi dod i law gan Jasmine Louise Thomas am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol.
Cyflenwi alcohol o ddydd Sul i ddydd Mercher 12:00-23:00, a dydd Iau i ddydd Sadwrn 12:00-01:00
Oriau agor o ddydd Sul i ddydd Mercher 12:00-23:30, dydd Iau i ddydd Sadwrn 12:00-01:30
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:- Atodiad A - Copi o'r cais Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Yn dilyn cytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau i'r amodau a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol – amodau arfaethedig – a chynllun yn nodi lleoliadau eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo yn y cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi ymgeisydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan rai o'r bobl eraill a oedd yn mynegi pryderon ac/neu'n gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd. Ymatebodd yr ymgeisydd i'r pryderon a'r materion a godwyd gan nodi yn dilyn pryderon perchnogion eiddo a busnesau cyfagos ei bod yn tynnu ei chais yn ôl o ran dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher a byddai'n ystyried agor ar y diwrnodau hynny ar sail dymhorol yn unig.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is Bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |