Agenda a chofnodion drafft

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 30ain Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED BERSONOL pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cais ar lafar a wnaed gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ar ran y Tîm Llygredd i ohirio'r cyfarfod am 30 munud i ganiatáu i wybodaeth a ddarparwyd ar ran yr ymgeisydd, Parkdean Caravan Parks Limited, yn ystod y 12 awr diwethaf gael ei hegluro, heb unrhyw wrthwynebiadau gan y partïon eraill i'r cais hwn, bu i'r Is-bwyllgor:

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gohirio'r cyfarfod am 30 munud er mwyn galluogi cynrychiolwyr yr awdurdod cyfrifol i gael eglurhad gan yr ymgeisydd.


 

Ar ôl y toriad a chyn ystyried y cais, gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd Trwyddedu i roi gwybod i bawb a oedd yn bresennol ar lafar am ganlyniad y drafodaeth, a dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu ei bod wedi arwain yr ymgeisydd i wneud newidiadau i'r cais fel a ganlyn:-

 

·       Dileu'r ardaloedd awyr agored o gynlluniau'r cais.

 

·       Dileu'r cais i ymestyn Dramâu, Ffilmiau, Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth a Recordiwyd a Pherfformiadau Dawns yn yr awyr agored.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a oedd yn bresennol y newidiadau uchod i'r cais.

 

Rhoddodd Cyfreithiwr y Cyngor wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y cais diwygiedig ynghyd â'r dogfennau canlynol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – Copi o'r cais gwreiddiol;

Atodiad B – Copi o drwydded gyfredol y safle;

Atodiad C – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad D – Sylwadau Iechyd yr Amgylchedd;

Atodiad E – Sylwadau eraill.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at y sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad gan gyfeirio at y cais diwygiedig. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau a'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cadarnhaodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ar ran y Tîm Llygredd a oedd wedi cyflwyno sylwadau y manylir arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad ei fod wedi tynnu ei wrthwynebiad yn ôl yn sgil y newidiadau i'r cais. Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r holl bartïon ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Tîm Llygredd.

 

Roedd nifer o wrthwynebwyr yn bresennol a chyfeiriodd y gwrthwynebwyr at y wybodaeth a nodir yn Atodiad E yr adroddiad, gan gyfeirio at y cais fel y'i  diwygiwyd. Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r holl bartïon holi'r gwrthwynebwyr ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd at y cais fel y'i diwygiwyd, ynghyd ag amod arfaethedig na fydd unrhyw focsio yn digwydd ar y safle.

 

Yn ogystal â'r cais fel y'i diwygiwyd, ac er mwyn helpu i gyfathrebu â thrigolion lleol yn y dyfodol, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y byddai'r ymgeisydd yn gwneud y canlynol:

 

1)    Rhoi gwybod i Gyngor Cymuned Pentywyn pan fydd yr ymgeisydd yn cyhoeddi Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro

2)    Rhoi rhif ffôn cyswllt i Gyngor Cymuned Pentywyn ar gyfer y swyddfa ddiogelwch ar y safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau a'r holl bartïon ofyn cwestiynau i gynrychiolydd yr ymgeisydd.

 

Felly bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.