Lleoliad: Remote Meeting - ,
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan UAS Car Care am drwydded safle mewn perthynas ag Uned 7, Pentref Menter Foothold, Burry Road, Llanelli SA15 2DS i ganiatáu'r canlynol:-
Cyflenwi Alcohol – dydd Llun tan ddydd Sul 12:00 – 23:00
Ffilmiau - dydd Llun tan ddydd Sul 10:00 – 23:00
Oriau Agor - dydd Llun tan ddydd Sul 09:00 - 00:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys Atodiad C - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill
O ran sylwadau Heddlu Dyfed-Powys, y manylir arnynt yn Atodiad B, nododd yr Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt yn llawn. Nodwyd nad oedd gan y gwrthwynebwyr, sef Cyngor Tref Llanelli, neb yn bresennol i'w cynrychioli yn y cyfarfod.
Dywedodd yr ymgeisydd wrth yr Is-bwyllgor mai diben y cais oedd ategu'r siop goffi bresennol sydd ar agor ar y safle ar benwythnosau dim ond pan nad oedd y busnes garej yn weithredol, er bod y cais wedi gofyn am drwydded am 7 diwrnod yr wythnos. Cyfeiriodd at y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Llanelli a dywedodd fod y safle trwyddedig agosaf yng nghlwb golff Machynys a bod yr eiddo preswyl agosaf tua 10 munud i ffwrdd ar droed. Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi awgrymu bod nifer o amodau ynghlwm wrth y drwydded a chytunwyd ar y rheiny gyda'r heddlu. Cadarnhaodd ei fod hefyd wedi cysylltu ag Is-adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor Sir a bod ei bryderon wedi cael sylw.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.
Ar hynny
PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau y cytunwyd arnynt gyda Heddlu Dyfed-Powys.
RHESYMAU: Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:
Yr oedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |