Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau yn y cyfarfod.
|
|
CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE NOTTS BAR, 16 NOTT SQUARE, CAERFYRDDIN SA31 1PQ. PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi cael ei gyflwyno gan Mr S. Davies am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Notts Bar, 16 Notts Bar, Caerfyrddin i ganiatáu:
Cyflenwi Alcohol:- Dydd Sul i Ddydd Mercher 11:00 – 23:00 Dydd Iau 11:00-01:00 Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 11:00 – 02:00
Cerddoriaeth a Recordiwyd:- Dydd Sul i Ddydd Mercher 18:00-23:00 Dydd Iau 18:00-01:00 Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 14:00 – 02:00
Oriau Agor:- Dydd Sul i Ddydd Mercher 11:00-23:00 Dydd Iau 11:00-01:00 Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 11:00 – 02:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad: · Atodiad A – copi o'r cais · Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu · Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys · Atodiad D – copi o'r Drwydded Safle bresennol
Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau ar y cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.
Cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu Rhanbarthol o Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch ei sylwadau.
Cafwyd sylw gan yr ymgeisydd o blaid ei gais.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.
Yna bu i'r Is-bwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Notts Bar, 16 Maes Nott, Caerfyrddin, yn amodol ar y canlynol;
Y RHESYMAU Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
1. Roedd y safle mewn ardal a glustnodwyd yn 'fan problemus' o ran troseddau ac anhrefn yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu; 2. Roedd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod ar y safle neu'n gysylltiedig â'r safle; 3. Roedd y safle wedi mynd yn groes i amodau ei drwydded yn y gorffennol; 4. Roedd Datganiad y Polisi Trwyddedu yn 'argymell yn gryf' gynnwys amser gorffen diodydd yn yr amserlenni gweithredu; 5. Roedd caniatáu 30 munud o amser gorffen diodydd yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel arfer da yn y diwydiant; 6. Ar hyn o bryd nid oedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |