Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Davies a J.E. Williams.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf sef gwybodaeth ynghylch unigolyn penodol.
|
|
CYFARWYDDWR ADFYWIO A PHOLISI - YSTYRIED CYFLOGAETH ARALL ADDAS. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif. 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.
Er y byddai'r prawf budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn, gan y dylai'r unigolyn dan sylw fod yn gallu disgwyl cael bod yn ddienw a hynny'n gyfreithlon wrth i'r Pwyllgor drafod addasrwydd yr unigolyn ar gyfer y dyletswyddau. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth. Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn dweud fod swydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wedi tyfu'n sylweddol i gynnwys dyletswyddau ychwanegol a oedd yn cynnwys y swyddogaeth Eiddo Corfforaethol. Yn ogystal â hyn, roedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn wedi cael ei chymeradwyo a byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol gyfrifol am arwain a rheoli gweinyddiaeth a chydymffurfiad prosiectau sydd werth £241m. Felly, roedd swydd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi wedi cael ei chreu er mwyn gyrru a chefnogi'r prosiect hwn. Byddai'r swydd hon yn cymryd lle'r swydd bresennol sef Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi), a byddai'r swydd honno yn dod i ben. Gwahoddwyd y Pwyllgor felly i asesu addasrwydd Mrs Wendy Walters, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi), i ymgymryd â dyletswyddau'r swydd Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Mrs Walters, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau. PENDERFYNWYD y byddai Mrs Wendy Walters yn cael ei phenodi i'r swydd Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi. [SYLWER: Galwyd Mrs Walters yn ôl i'r cyfarfod er mwyn rhoi gwybod iddi am y penderfyniad, a chadarnhaodd ei bod yn derbyn y swydd.]
|