Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos S Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Ken Howells
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau.
|
|
COFNODION LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR: |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2019 yn gofnod cywir.
|
|
11EG HYDREF 2019 (WEDI'O OHIRIO I'R 16EG HYDREF, 2019) PDF 316 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2019 yn gofnod cywir, yn amodol ar y newid uchod –
Dylai Cofnod 5.2 ddarllen fel a ganlyn -
Ar sail yr amgylchiadau lliniarol, bod · yr apêl yn cael ei chadarnhau, gan roi rhybudd ysgrifenedig terfynol · penderfyniad y Gwrandawiad Disgyblu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019 i ddiswyddo'r apelydd yn cael ei ddiddymu a bod yr apelydd yn cael ei diraddio i swydd arall. Os nad oes cyllideb ar gyfer swydd arall, dylai'r gweithiwr ddychwelyd i'w swydd barhaol â hyfforddiant a chymorth.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Cofnodion: Nid oedd dim.
|
|
DDIM I’W GYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Pharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig a chanlyniad y prawf budd y cyhoedd o ran y materion hyn oedd: “Roedd yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth bersonol ynghylch yr ymgeiswyr. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau nad oedd neb yn gwybod pwy oedd yr ymgeiswyr na'u teuluoedd”.
|
|
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN GWASANAETHAU CYMUNEDAU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd, ynghyd â'r Swyddogion Ymchwilio a Chomisiynu penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (roedd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)
Gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddog Comisiynu a'r apelydd.
Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
HYD Y CYFARFOD
Am 1.40yp wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd y Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau'r Weithdrefn Gorfforaethol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried yr eitemau a oedd ar ôl ar yr agenda.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, ac ar ei rhan, a chan y Swyddogion Comisiynu ac Ymchwilio:-
PENDERFYNWYD 6.1 bod yr apêl yn cael ei chadarnhau a bod penderfyniad y Gwrandawiad Disgyblu a gynhaliwyd ar 9 Awst 2019 i ddiswyddo'r apelydd yn cael ei ddiddymu a bod yr apelydd yn cael ei hadfer i'w swydd ond mewn rôl/maes gwahanol i o'r blaen; ond os nad oes rôl arall ar gael dylai'r apelydd ddychwelyd i'w rôl barhaol; 6.2 y dylai'r apelydd ddychwelyd i'r pwynt ar waelod Gradd D ar y Golofn Gyflogau 6.3 bod yr apelydd yn cael rhybudd ysgrifenedig terfynol
|