Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, W.T. Evans ac A. Leyshon. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 297 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||
ADRODDIADAU APELIADAU PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 8 Gorffennaf, 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad. |
|||||||
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 1 PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Chwarter 1 am y cyfnod Ebrill i Fehefin 2024 ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer data chwarterol a chronnol ar gyfer 2023/24.
Roedd yr adroddiad yn nodi set o ddangosyddion monitro perfformiad craidd a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys "Dangosyddion Cenedlaethol" a'r rhai a nodwyd gan y Cyngor.
Gwnaed cyfeiriadau at y broses orfodi, a gwnaed awgrym y gallai fod o fudd i aelodau'r Pwyllgor dderbyn hyfforddiant ar hynny. Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi fod trefniadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i aelodau dderbyn hyfforddiant ar y broses apelio a gellid helaethu'r hyfforddiant i gynnwys gorfodi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 MEHEFIN 2024 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2024 fel cofnod cywir. |