Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 15fed Awst, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, M. Donoghue a R. Sparks.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.M. Allen

3.1 – PL/06515 – Datblygiad Preswyl Arfaethedig (Anheddau Fforddiadwy), Ffordd Fynediad a Seilwaith Cysylltiedig, tir oddi ar Dol y Dderwen, Rhydaman, SA18 2GA

Aelod gwirfoddol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Tai Bro Myrddin – yr ymgeisydd

D.  Phillips

3.1 – PL/07482 – Codi llinell y to 1.2m ac ychwanegu 2 ffenestr ar y llawr cyntaf. Ychwanegu drws allanol a ffenestr i'r llawr gwaelod ar yr ochr ddeheuol. Gosod ffenestri a drysau UPVC newydd, bwthyn y tu ôl i'r Lamb Inn, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, SA23 OEL

Cyfarwyddwr y cwmni sy'n gwneud y cais

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 678 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/06515

Datblygiad Preswyl Arfaethedig (Anheddau Fforddiadwy), Ffordd Fynediad a Seilwaith Cysylltiedig, tir oddi ar Dol y Dderwen, Rhydaman, SA18 2GA

 

(SYLWER: Datganodd y Cynghorydd S.M. Allen, wrth ystyried yr eitem hon, ei bod yn aelod gwirfoddol o Fwrdd yr ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod yn brydlon heb gymryd rhan yn y drafodaeth na'r penderfyniad).

PL/06840

Mynediad newydd i'r goedwig o'r briffordd gyfagos, Coedwig Cefn Ystrad Ffin, Rhandirmwyn

PL/07482

Codi llinell y to 1.2m ac ychwanegu 2 ffenestr ar y llawr cyntaf. Ychwanegu drws allanol a ffenestr i'r llawr gwaelod ar yr ochr ddeheuol. Gosod ffenestri a drysau UPVC newydd, bwthyn y tu ôl i'r Lamb Inn, Llanboidy, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0EL

 

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd D. Phillips wedi datgan diddordeb yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y penderfyniad ynghylch yr eitem).

PL/07904

Amrywio Amod 1 ar gais PL/04555 (Newid defnydd dros dro (24 mis) o uned adwerthu wag (dosbarth A1) i ddepo cerbydau gyda swyddfeydd a lleoedd parcio cysylltiedig), 24A Heol Stanllyd, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RB

 

3.2   PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:

 

PL/02167

Adeiladu a gweithredu cyfleuster ailgylchu gwastraff anadweithiol, prosesu gwastraff a gwaith cysylltiedig gan gynnwys adeiladu bwnd sgrinio, Chwarel Cilyrychen, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3JE

 

Cafwyd sylwadau yn gwrthwynebu'r cais a ailbwysleisiai’r pwyntiau gwrthwynebu yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Effaith traffig lorïau ychwanegol i'r safle ac oddi yno ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a chymunedau o ran s?n, llwch, llygredd aer, mwd ar y briffordd a gollwng deunydd o lwythi wedi'u diogelu'n amhriodol

·       Mae'r ysgol leol yn Llandybïe wedi'i lleoli 100m o'r A483 drwy Landybïe ac mae croesfan yr ysgol mewn man cul

·       Diffyg llwybr cyhoeddus ar y naill ochr a'r llall i'r A483 o ymyl y pentref i'r ffordd fynediad i Gilyrychen

·       Nid oedd yr ymgeisydd wedi cynnal arolwg traffig na monitro llygredd

·       Yn seiliedig ar lefelau traffig pan oedd y chwarel yn weithredol, roedd tua 70 o lorïau sgipiau yn cyrraedd yn llawn ac yn gadael yn wag bob dydd, ynghyd â 70 o lorïau codi a oedd yn cyrraedd yn wag ac yn gadael yn llawn, sy'n cyfateb i symudiad gan gerbyd nwyddau trwm bob 2 funud

·       Effaith y cynnig ar y fflora a'r ffawna yn y chwarel

·       Effaith ar y tirlyn gerllaw (yr unig un a nodwyd yn y DU) a'r llyn oligotroffig yn y chwarel

·       Mae'r cynnig yn gwrthdaro â TAN 21 lle mae'n nodi y "dylai awdurdodau ystyried lleoliadau addas ar gyfer 'chwareli trefol’. Dadleuwyd nad oedd Cilyrychen yn un o'r lleoliadau hynny.

·       Ystyrid, unwaith y byddai'r holl agregau eilaidd presennol ar y safle wedi'u cynaeafu, y byddai'n rhaid i'r holl ddeunydd a brosesir ar y safle i'w ailgylchu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 15  Awst 2024.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir.