Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 20fed Mehefin, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:-

 

PL/02235

Un breswylfa newydd ar lain ger Gelli Rhifan, Rhos, Llandysul, SA44 5EE

 

Cafwyd sylwadau gan yr Aelodau Lleol a oedd yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

Byddai'r datblygiad yn:-

·      diwallu anghenion y teulu

·      cefnogi teulu sy'n dymuno aros yn yr ardal

·      cefnogi'r ysgol leol

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

 

 

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 7 Mehefin, 2024.

 

Mewn ymateb i sylw a gafwyd ynghylch y ffaith fod nifer yr apeliadau sy'n weddill yn cynyddu bob tro y cânt eu cyflwyno i'r Pwyllgor, eglurodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a Gorfodi fod mwy o geisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno ac felly roedd mwy o benderfyniadau ar apeliadau'n cael eu gwneud o ganlyniad. 

 

Nodwyd bod ôl-groniad yr apeliadau yn yr adroddiad wedi cael eu cyflwyno i PEDW sef Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i gychwyn ar y broses apelio.  Yn dilyn hyn mynegwyd siom oherwydd y rheswm o bosibl dros y cynnydd yn nifer yr apeliadau yr adroddwyd amdanynt oedd PEDW.  Ailadroddodd yr Uwch-swyddog Rheoli a Gorfodi fod mwy o apeliadau'n cael eu derbyn ac eglurodd fod pob achos yn cael ei bennu ar ei rinweddau ei hun gyda rhai yn fwy cymhleth nag eraill.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar dd mm, bbbb gan eu bod yn gywir.

 

5.1

23 MAI 2024 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 23 Mai, 2024 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.2

4 MEHEFIN 2024 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 4 Mehefin:, 2024 gan eu bod yn gywir.