Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 4ydd Mehefin, 2024 11.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Site Visit 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, T. Davies, M. Donoghue, J. James, E. Skinner a S. Williams

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/06309

Amrywio Amod 2 (o gais W/35339) er mwyn newid cynlluniau i gynnwys ramp mynediad diwygiedig a newidiadau i annedd.

 

Cyn ystyried y cais, derbyniwyd cais gan y cynghorydd lleol i ohirio ystyried y cais er mwyn cynnal ymweliad safle arall er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y datblygiad o ardd gefn gwrthwynebydd ar y sail nad oedd mynediad yn bosibl y bore hwnnw oherwydd camddealltwriaeth rhyngddi hi a'r gwrthwynebydd

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, gan fod yr ymweliad safle wedi'i gynnal yn unol â'r protocol cynllunio, nad oedd unrhyw reswm cyfreithiol y gellir ei gyfiawnhau dros ohirio'r cais i gynnal ymweliad safle arall.

 

Yn dilyn pleidlais:

 

PENDERFYNWYD peidio â chaniatáu'r cais a ddaeth i law i ohirio'r cais er mwyn cynnal ymweliad safle arall a bod y Pwyllgor yn bwrw ymlaen i ystyried a phenderfynu ar y cais.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Datblygu at yr ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio oedd wedi ei gynnal ar 28 Mawrth 2024) er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor asesu effaith lawn y cais.

 

Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r cynnig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ac unrhyw amodau eraill sy'n ofynnol gan y Pwyllgor.

 

Cafwyd sylwadau gan ddau wrthwynebydd i'r cais yn ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebu yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, a oedd yn cynnwys;

·       Roedd y datblygiad, gan ei fod wedi ei adeiladu ar dir uwch o gymharu â'r eiddo cyfagos, yn tynnu sylw ato'i hun ac yn ymwthiol, gan effeithio'n niweidiol ar breifatrwydd, amwynder a mwynhad yr eiddo hynny a'u gerddi cefn gan ei fod yn edrych drostynt.

·       pe gydymffurfiwyd â'r cynllun gwreiddiol, ni fyddai gan gymdogion unrhyw wrthwynebiadau.

·       effaith andwyol ar iechyd cymdogion a'u llesiant.

·       cafodd y gwelliannau eu gwneud heb ganiatâd cynllunio ac felly ni ddylid rhoi caniatâd a dylid gwaredu'r elfennau anawdurdodedig.

·       Diffyg ymgynghoriadau ar y newidiadau i'r cais gwreiddiol yn 1999.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.