Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 12fed Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M. Thomas

3 - Cais cynllunio PL/05130 - Dymchwel y breswylfa bresennol a chodi 4 preswylfa ar wahân, 22 Ar y Bryn, Pen-bre, Llanelli, SA16 0AX

Mae wedi gwrthwynebu'r cais yn ysgrifenedig.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 755 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1   PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar wiriadau halogiad tir, yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

PL/04864

 

Cais am ganiatâd cynllunio llawn i adeiladu 10 preswylfa ar dir y tu cefn i Y Garreg Lwyd, Heol Ebenezer, Llanedi, SA4 0ZL

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·         Pryderon y byddai'r datblygiad yn arwain at lifogydd mewn eiddo cyfagos.

·         Roedd y tir yn arfer bod yn safle tirlenwi ac mae'n rhaid cael gwared ag unrhyw halogiad pridd.

·         Yr effaith bosibl ar breifatrwydd trigolion cyfagos.

·         Yr angen am gyfraniadau Adran 106 er budd y pentref.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

 

3.2   PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

PL/05056

 

Adeiladu llwybr rhannu defnydd 3.0m o led rhwng Cae'r-bryn a Phen-y-groes fel rhan o Gam 3 y Llwybr Rhannu Defnydd rhwng Pen-y-groes a Chae'r-bryn, Sir Gaerfyrddin, SA18 3EQ

 

 

PL05130

 

Dymchwel y breswylfa bresennol a chodi 4 preswylfa, 22 Ar y Bryn, Pen-bre, Llanelli, SA16 0AX

 

[Nodwch: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd M. Thomas Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

 

PL/05546

 

Datblygiad Preswyl (9 byngalo) ar dir gyferbyn â'r Plough and Harrow, y Betws, Rhydaman, SA18 2HE

 

 

PL/05766

 

Estyniad 5m i d?r y gosodiad presennol. Adleoli 3 antena a 2 ddysgl (fel y nodir yn E/38278). Gosod 6 antena newydd a 5 cabinet newydd ar y ddaear. Gosod unedau radio o bell, blychau breakout, mwyaduron pen mast, nodau GPS a chyfarpar a gwaith ategol cysylltiedig ar dir yng Nghoedwig Nant y Bai, Rhandir-mwyn, Llanymddyfri, SA20 0PA

 

 

PL/06083

 

Cais am fyngalo ar wahân, 60 Heol y Meinciau, Pont-iets, Llanelli, SA15 5RT

 

 

3.3   PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

  

PL/05822

 

Cais am ddatblygiad preswyl o 16 uned, ymestyn ffordd yr ystad a gwaith cysylltiedig, tir a arferai fod yn rhan o Fferm Cefn a ger Dan-y-Dderwen, Rhydargaeau, Caerfyrddin, SA32 7DQ

 

Cafwyd sylw a oedd yn cefnogi'r cais ac yn ailbwysleisio’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·         Yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal.

·         Byddai'r cyfraniadau Adran 106 o fudd i'r pentref a byddai'r ddarpariaeth arfaethedig o ran mannau agored / lle chwarae mwy o fudd i deuluoedd lleol.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.

 

 

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 2 Hydref, 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14EG MEDI, 2023 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023, gan eu bod yn gywir.