Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli
Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach
y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
ar 2 Chwefror 2023), a drefnwyd er
mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â
phryderon y gwrthwynebwyr. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau
PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â
disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a
gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a
chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod
y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais
ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y
Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:
· Gwrthwynebiadau gan 75 o
breswylwyr lleol a'r Cyngor
Cymuned
· Diogelwch ffyrdd a thagfeydd
traffig
· Diffyg parcio oddi ar y stryd a
pharcio i ymwelwyr
· Roedd y CDLl wedi nodi'r safle ar
gyfer 5 t?. Roedd y cais presennol ar gyfer 7 ac nid oedd y safle
wedi'i nodi i'w ddatblygu o fewn y CDLl
oedd yn cael ei ddatblygu
· Colli cynefinoedd bywyd gwyllt a
choridor bywyd gwyllt
· Materion perchnogaeth tir /
ffiniau
· Eiddo cyfagos yn colli
preifatrwydd
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r
Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
|