Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Jones a G.B. Thomas.
|
|||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 298 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||||||
PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 1 PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 1 am y cyfnod 1 Ebrill 2023 hyd at 30 Mehefin 2023 ar gyfer y gwasanaeth Cynllunio, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol mewn perthynas â 2022/23.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at ddangosydd 13 - Cwynion Gorfodi wedi'u cofrestru. Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd ynghylch lleoli carafanau heb ganiatâd cynllunio, dywedodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi y gall y system orfodi fod yn broses hir ac esboniodd y ffactorau a allai effeithio ar yr amserlenni.
· Cyfeiriwyd at Ddangosydd 14 – Canran yr achosion gorfodi sydd wedi cau yr ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod. Ar ôl adrodd i'r Adran Gynllunio, dywedwyd y gallai fod rhwng 2 a 3 mis cyn y byddai'r troseddwr yn cael hysbysiad ac, yn yr amser hwnnw, mae gwaith pellach wedi'i wneud. Gofynnwyd a fyddai modd anfon llythyr at y troseddwr yn ei hysbysu bod adroddiad wedi'i wneud ac yn gofyn iddo roi'r gorau i'r gwaith hyd nes bod ymchwiliadau'n digwydd? Eglurodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi, wrth dynnu sylw at y ffaith y dylid cynnal ymchwiliad o fewn 84 diwrnod, fod adroddiadau i'r Adran Gynllunio yn cael eu blaenoriaethu yn dibynnu ar ffactorau amrywiol ac yn unol â'r effaith ar yr amwynderau a'r amgylchedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||
ADRODDIAD APELIADAU PDF 191 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 7 Awst, 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 GORFFENNAF 2023 PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20fed Gorffennaf, 2023 yn gofnod cywir.
|