Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 30ain Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr S.M. Allen, D. Owen, T. Davies, M.J.A. Lewis, D.E. Williams a J.D. James.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Y Cais

Y Math o Fuddiant

E. Skinner

PL/05408 - Newid arfaethedig o ddefnydd Capel Cambrian, hen Eglwys Fethodistaidd Heol Victoria, Llanelli, SA15 2LE

 

Mae'n byw yn agos at yr eiddo.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/05000

 

Maes pob tywydd ar gyfer ceffylau a ch?n yn Cwmlogin House, Maes-y-bont, Llanelli, SA14 7HB

 

PL/05230

Paneli Ynni Solar Ffotofoltäig ar y to presennol yn Old Board School Guest House, Stryd Fawr, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4DY

 

PL/05408

 

Newid arfaethedig o ddefnydd o hen Gapel Methodistaidd i 3 fflat un ystafell wely gan gynnwys creu strwythur llawr cyntaf newydd a darparu goleuadau to i'r ardal to ar y llawr cyntaf, Capel Cambrian, hen Eglwys Fethodistaidd Heol Victoria, Llanelli, SA15 2LE

 

[Sylwer: Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd E. Skinner ei fuddiant a gadawodd y cyfarfod wrth i'r eitem hon gael ei hystyried ac am y pleidleisio.]

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd:

 

PL/05039

 

Darparu safle i deithwyr gyda charafán dwy uned, ystafell ddydd/cyfleustodau, carafanau teithiol, adeiladau amaethyddol, paneli haul a gwelliannau mynediad (yn rhannol ôl-weithredol), Fferm Bryngwyne Fach, Carmel, Llanelli, SA14 7UH

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2AIL MAWRTH, 2023 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023, gan eu bod yn gywir.