Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. James, D. Owen, G.B. Thomas ac E. Williams. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
3.2 PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, a hynny am y rhesymau canlynol:-
(i) Roedd y safle wedi'i leoli'n agos at yr anheddiad diffiniedig agosaf sef Glanaman ac; (ii) Byddai'r datblygiad yn helpu i hyrwyddo cerdded a beicio ac yn cefnogi egwyddorion Teithio Llesol :-
ac ar sail ei benderfyniad:
· Bod y cais yn cael ei hysbysebu fel Gwyriad oddi wrth Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. · Os, ar ôl i'r cyfnod rhybudd ar gyfer y Gwyriad ddod i ben, na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gyflwyno'r Hysbysiad Penderfynu, yn amodol ar yr amodau priodol.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 HYDREF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriwyd at Gais Cynllunio PL/03374 a bod yr aelod lleol yn cefnogi'r cais. Gofynnwyd a ellid newid y geiriad fel ei fod yn darllen 'aelod lleol'
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13egHydref, 2022 yn gywir, yn amodol ar yr uchod. |