Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J. Thomas
01267 224027
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
D.
Phillips
|
3: PL /
00750 - Cadw'r estyniad i bwll slyri presennol at ddibenion lles yn
Nantygoetre Isaf, Llandyfaelog,
Cydweli, SA17 5YA
|
Yn
hyfforddi tîm Tynnu Rhaff Llanboidy ac mae'r ymgeisydd yn y
garfan
|
|
3. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 794 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/40307
|
Estyniad arfaethedig a chodi lefelau'r iard storio
ddiwydiannol bresennol ynghyd â llefydd parcio cysylltiedig,
cabanau symudol ar gyfer staff, hopranau diwydiannol a phont bwyso
ar dir ger ystâd ddiwydiannol WDA, Porth Tywyn, Llanelli,
SA16 0NN
(Sylwer: mae'r caniatâd
hefyd yn
amodol ar
Gytundeb Adran 106)
|
PL/00750
|
Cadw'r estyniad i bwll
slyri presennol at ddibenion lles yn Nantygoetre Isaf, Llandyfaelog, Cidweli, SA17 5YA
(NODER: Gan fod y Cynghorydd
D Phillips wedi datgan buddiant yn cais hwn eisoes, nid oedd yn
bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y
Pwyllgor)
Daeth
sylw i law a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebiad y manylwyd
arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Roedd y rheiny'n cynnwys
pryderon ynghylch graddfa'r pwll slyri a pha mor agos yr oedd at
eiddo’r gwrthwynebydd, effaith andwyol ar yr amwynderau
oherwydd pryfed, aroglau a s?n, iechyd, diogelwch cymunedol, pa mor
agos oedd pyllau slyri eraill y cludir slyri iddynt, y potensial i
gludo slyri i'r safle o fferm gyfagos yr ymgeisydd a bydd cynnydd mewn traffig yn cynyddu llygredd.
Rhoddwyd hefyd ystyriaeth i'r ffaith fod y cynllun rheoli a
gyflwynwyd yn wallus, roedd gwallau yn adroddiad y Pennaeth
Cynllunio ac roedd y cynnig yn groes i bolisi GP1 y Cynllun
Datblygu Lleol
Ymatebodd asiant yr
ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a
godwyd.
|
PL/00935
|
Estyniad deulawr ar ochr yr
eiddo a phortsh blaen newydd - Blaenau
Isaf, Cross Hands, Llanelli, SA14
6DD
|
PL/01348
|
Bwriad i ddymchwel
yr adeilad presennol ac ailadeiladu i ddarparu 12 fflat gofal
preswyl (dosbarth c2) a swyddfa weinyddol gysylltiedig yn 33-35
Stryd Murray, Llanelli, SA15 1BQ
|
|
4. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 502 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/00959
|
Cyfleuster arfaethedig ar gyfer gwaith
potelu llaeth yn cynnwys swyddfa ategol (b2) gan gynnwys storio
(b8) a gwaith seilwaith cysylltiedig. Fferm
Penrhiw, Cwmisfael, Caerfyrddin, SA31 8BY
|
PL/01054
|
Adeiladu preswylfa ar wahân newydd ar
lain 4, rhan o gae rhif. 6555, Croesyceiliog, Caerfyrddin, SA32
8DS
Er nad
oedd gwrthwynebydd y cais yn gallu bod yn bresennol wrth i'r
pwyllgor roi ystyriaeth i'r cais uchod, cyflwynwyd sylwadau
ysgrifenedig yn lle hynny, trwy e-bost, yn manylu ar y
gwrthwynebiadau i'r datblygiad arfaethedig. Darllenwyd y sylwadau
hynny i'r Pwyllgor gan y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig
ac ail-bwysleisiwyd y pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn
adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. Roeddent yn cynnwys
pryderon yn ymwneud â phreifatrwydd, edrych dros eiddo,
balconi arfaethedig Juliette (a oedd
wedi'i dynnu o'r cais), mynediad i'r briffordd a mabwysiadu ffordd
yr ystâd.
Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a
godwyd.
(Sylwer: mae
caniatâd hefyd yn amodol ar lofnodi'r Ymgymeriad
Unochrog ar
gyfer y cyfraniad tai
fforddiadwy)
|
|
5. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF EBRILL, 2021. PDF 193 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021 yn
gofnod cywir.
|