Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Cofnodion:
Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.D. James.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Cofnodion:
Cynghorydd/Cynghorwyr
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
J.
Gilasbey
|
4.1 - S/38282
Bwriad i adeiladu Ysgol Cyfrwng Cymraeg
ar gyfer 174 o ddisgyblion a Meithrinfa ar gyfer 30 o blant sy'n
cynnwys mynediad cysylltiedig, maes parcio, cae chwaraeon, maes
chwarae amlddefnydd a gwaith seilwaith a thirlunio cysylltiedig. Ar
dir i'r dwyrain o Barc Pendre, Cydweli, SA17 4AJ
|
Mae'r Cynghorydd Gilasbey wedi chwarae
rhan allweddol yn y prosiect ac felly roedd ganddi eisoes farn ar y
mater.
Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn Llywodraethwr
Awdurdod Lleol yn Ysgol Gwenllian
Cydweli
|
D.
Cundy;
C.
Jones;
D.
Jones;
A.
Lenny;
D.
Phillips;
G.B.
Thomas.
|
4.3 - S/39358 –
Newid defnydd yr eiddo o breswylfa
Dosbarth C3 i Gartref Preswyl Plant Dosbarth C2 yn 2 Erw Las,
Llwynhendy, Llanelli, SA14 9SF.
|
Nid oedd y cynghorwyr yn bresennol yng
nghyfarfod ymweliad safle'r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror
2020.
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 967 KB
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r
ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y
Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
E/40029
|
Adeiladu pedair preswylfa, a'r holl waith
cysylltiedig ar dir yn Ffordd y Glowyr, Betws, Rhydaman,
SA18 2JZ
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/38282
|
Bwriad i adeiladu Ysgol Cyfrwng Cymraeg ar
gyfer 174 o ddisgyblion a Meithrinfa ar gyfer 30 o blant sy'n
cynnwys mynediad cysylltiedig, maes parcio, cae chwaraeon, maes
chwarae amlddefnydd a gwaith seilwaith a thirlunio cysylltiedig. Ar
dir i'r dwyrain o Barc Pendre, Cydweli, SA17 4AJ
(NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y
mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Gilasbey y
cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu
arno.)
|
S/39961
|
Estyniad deulawr arfaethedig ac addasu garej yn rhannol yn 14
Llys Cilsaig, Dafen, Llanelli, SA14 8QT
|
4.2 PENDERFYNWYD y dylid derbyn y
rhesymau gwrthod, yn seiliedig ar y rhesymau a ddarparwyd gan y
Pwyllgor Cynllunio ar 11 Chwefror 2020, a nodwyd yn adroddiad y
Pennaeth Cynllunio: -
S/39358
|
Newid defnydd yr eiddo o breswylfa dosbarth C3 i Gartref
Preswyl Plant dosbarth C2 yn 2 Erw Las, Llwynhendy, Llanelli, SA14
9SF
(NODER: Nid oedd y Cynghorwyr D. Cundy, C. Jones, D. Jones, A. Lenny,
D. Phillips a G.B. Thomas ,ar ôl datgan diddordeb yn
gynharach, yn bresennol yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11
Chwefror 2020, ac er iddynt aros yn y cyfarfod yn ystod y
trafodaethau, ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na
phleidleisio ar benderfyniad yr adroddiad).
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 992 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD
YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn
amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio
a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/39871
|
Addasu sgubor yn llety gwyliau ym
Mhantybarcud, Felindre, Llandysul, SA44 5XJ
|
W/40201
|
Dymchwel y gegin, yr ystafell ymolchi a'r
adeilad allanol presennol. Adeiladu estyniad unllawr â tho
gwastad i'r breswylfa er mwyn cynnwys cegin ac ystafell ymolchi yn
53 Hillcroft, Heol Blaenhirwaun, Drefach, Llanelli, SA14
7AJ.
|
5.2 PENDERFYNWYD caniatáu
Cais Cynllunio W/39913 yn groes i argymhelliad y Pennaeth
Cynllunio, ar y sail y barnwyd fod y datblygiad arfaethedig yn unol
â Pholisïau H5, SP15 a TSM4, a bod yr amodau
angenrheidiol yn cael eu gosod.
W/39913
|
Addasu prif adeilad y tu-allan, dymchwel ac
ailadeiladu adeilad presennol y tu allan ynghyd â gwneud
estyniad cysylltiol er mwyn ffurfio dwy uned llety gwyliau yn y
Bwlch, Capel Iwan, Castellnewydd Emlyn, SA38 9NW
Dywedodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu
[Dwyrain] ei fod wedi derbyn e-bost gan yr asiant yn egluro bod yr
adeilad newydd a gynigwyd, er ei fod ar ffurf deulawr, yn darparu
llety unllawr yn unig. Fodd bynnag, roedd yr asiant yn deall ac yn
gwerthfawrogi'r rheswm drafft dros wrthod y cais yng nghyd-destun y
polisi.
Gwnaed sylw gan yr Aelod lleol, a nododd ei
fod yn cefnogi’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog i
wrthod y cais, a nododd mai nod y datblygiad oedd addasu hen dwlc
mochyn yn llety i ymwelwyr trwy ailddefnyddio'r cerrig gwreiddiol
er mwyn cadw cymeriad yr adeilad.
Cyfeiriwyd at adroddiad a ddatblygwyd gan Gr?p Gorchwyl Materion
Gwledig Caerfyrddin gan nodi pryderon bod ardaloedd gwledig yn cael
eu gadael ar ôl ac yr ateb i gynaliadwyedd oedd annog
Twristiaeth lle bo hynny'n bosibl.
Mynegodd yr Aelod lleol yn gryf na ddylid atal yr ymgeiswyr rhag
dilyn y datblygiad arfaethedig a oedd yn hybu twristiaeth yn yr
ardal. Yn ogystal, yn groes i
argymhelliad y Swyddogion i wrthod y cais, y teimlad oedd y
byddai'r estyniad yn welliant ac nad oedd yn cael ei ystyried yn
newid helaeth, ac o ganlyniad, cynigiwyd caniatáu'r cais, ac
eiliwyd hynny.
Ategodd yr Uwch Swyddog Rheoli Datblygu
[Dwyrain] i'r Pwyllgor y rhesymau pam yr argymhellwyd gwrthod y
cais fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y datblygiad
arfaethedig yn gyfystyr â newid, ymestyn ac ailadeiladu
helaeth i hwyluso'r broses o greu dwy uned wyliau ac oherwydd hyn,
fe'i hystyriwyd yn groes i Bolisïau TSM4 a H5 o Gynllun
Datblygu Lleol Sir Caerfyrddin 2014 a pharagraff 3.4.1 o Nodyn
Cyngor Technegol 23: Datblygu Economaidd Chwefror 2014.
Consensws y Pwyllgor oedd bod dehongliad y
cais yn oddrychol.
Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr amodau
angenrheidiol.
|
|
6. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR
|
6.1 |
11EG CHWEFROR 2020; PDF 156 KB
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 11 Chwefror, 2020 yn gofnod
cywir.
|
6.2 |
27AIN CHWEFROR 2020 PDF 148 KB
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 yn gywir.
|
6.3 |
4YDD MAWRTH 2020. PDF 138 KB
Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020, gan eu bod yn
gywir.
|