Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M.
Allen a J.E. Williams
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y
Cynghorydd
|
Rhif y
Cofnod
|
Y Math
o Fuddiant
|
G.B.
Thomas
|
4.2
– Cais W/39625 - Datblygiad preswyl arfaethedig o 6 o unedau
tai fforddiadwy. Mae'r cais hefyd yn cynnwys, seilwaith, gwaredu
perth yn rhannol, gwelliannau i'r dirwedd, cynllun lliniaru a
gwella bioamrywiaeth; ac unrhyw waith atodol ar dir oddi ar Heol
Fawr, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JA
|
Yn
adnabod y gwrthwynebydd
|
D.
Phillips
|
4.1
– Cais W/39586 – Estyniadau a newidiadau yn Fronafon,
Login, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0TN
|
Yn
adnabod y perchennog
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 634 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
E/39097
|
Amrywio amod 2 o'r caniatâd cynllunio
E/18750 er mwyn caniatáu mynediad diwygiedig ar gyfer Plot 3
ar dir a arferai fod yn rhan o Heddfryn, Llansadwrn,
Llanwrda
|
E/39543
|
Annedd menter wledig ar dir ym Mryngwyn
Uchaf, Gelli Aur, Caerfyrddin SA32 8NB
|
E/39661
|
Cynnig i godi un annedd gyda garej fach ar
wahân yn y llain ger The Gables, (Rhif 10), Heol Saron,
Saron, Rhydaman, SA18 3LG
|
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais
cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r
safle:-
E/39463
|
Bwriad i ddymchwel a chodi estyniad deulawr
yng nghefn yr eiddo. Gosod to garej yn lle'r un presennol gan osod
to trumiog traddodiadol gyda brenhinbost o bren yn 29 Heol
Cwmfferws, Tycroes, Rhydaman, SA18 3TU
Cafwyd
sylw gan yr Aelod Lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r
safle er mwyn asesu graddfa’r datblygiad arfaethedig yng
nghyd-destun yr eiddo cyfagos.
Y
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i asesu graddfa'r datblygiad
arfaethedig yng nghyd-destun yr eiddo cyfagos.
|
3.3 PENDERFYNWYD
YN UNFRYDOL gohirio'r cais canlynol i alluogi'r Pennaeth Cynllunio
i asesu gwybodaeth ychwanegol :
E/39091
|
Uned storio amaethyddol ar dir i'r de o Heol
Grenig (i'r gorllewin o Bantyffynnon), Glanaman,
Rhydaman
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 939 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau
cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
S/37370
|
Dwy
breswylfa ar ffurf tai pârar dir ger 63 Heol Culla, Trimsaran, Cydweli, SA17
4DA
|
S/38652
|
Amrywio amodau 1 ac 8 ar S/19824 (cais am
estyniad amser a ganiateir er mwyn echdynnu mwynau) yn Chwarel
Pennant, Heol Herberdeg, Pont-iets, Llanelli, SA15 5UP
|
S/39157
|
Preswylfa ar wahân a garej ddwbl ar
dir wrth gefn 45 i 53 Heol Pemberton, Pemberton, Llanelli, Sir
Gaerfyrddin
|
S/39712
|
Dymchwel y strwythurau presennol a chais am
d? 5 ystafell wely, 2 garej a gwaith
cysylltiedig ar dir y tu ôl i 5, 7 a 9 Heol y Fforest, Hendy,
Llanelli, SA4 0TN
|
S/39814
|
Troi eiddo presennol yn ddau fflat ac
adeiladu t? 3 ystafell wely ar dir gwag cyfagos yn 2 Cilgant Great
Western, Llanelli, SA15 2ND
|
4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
y dylid rhoi caniatâd i'r cais cynllunio canlynol ond na
ddylid rhyddhau'r hysbysiad o benderfyniad hyd nes bod y cyfnod
rhybudd 21 diwrnod perthnasol wedi dod i ben mewn perthynas
â’r Tystysgrif B diwygiedig a roddwyd i'r Awdurdod
Cynllunio Lleol a bod yr hysbysiadau angenrheidiol yn cael eu
cyflwyno i'r parti/partïon perthnasol
S/38805
|
Amrywio amod 4 o ganiatâd cynllunio
S/11960 (er mwyn galluogi gwerthu bwyd a diod o Uned 2A) yn TK
MAXX, 2A Parc Adwerthu Trostre, Llanelli, SA14 9UY
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 632 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/39586
|
Cais am
newid defnydd rhandy yn breswylfa yn Hafod Hill, Llanboidy,
Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0ER
(Roedd
y Cynghorydd D. Philips wedi datgan buddiant yn y cais hwn yn
gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd y cais yn cael ei drafod gan
y Pwyllgor ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn ei
gylch)
|
W/39678
|
Adeiladu annedd a garej yn yr ardd yn S?n y
Môr, Llansadurnen, Talacharn, SA33 4RJ
Daeth
sylwadau i law gan yr Aelod Lleol a gwrthwynebydd i'r cais a oedd
yn ail-bwysleisio’r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn
adroddiad y Pennaeth Cynllunio gan gynnwys:
·
Effaith ar yr olygfa o'r
eiddo preswyl cyfagos a'r dirwedd o'i gwmpas
·
Arolygwyr yn gwrthod
apêl cynllunio yng Nghasnewydd sy'n debyg i'r cais dan
sylw
·
Sefyllfa amlwg ar y dirwedd
a dylid ei osod ar lefel is
·
Dim manylion penodol am y
math o annedd fydd yn cael ei adeiladu
·
Effaith ar y briffordd leol
o ran cynnydd mewn traffig a phryderon am ddarparu'r llain
welededd, yr oedd rhan ohoni yn cynnwys mynediad blaen yr eiddo
cyfagos
·
Dim system garthffosiaeth
gyhoeddus
·
Effaith
cynaliadwyedd
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, yr Uwch-dechnegydd
(Cyswllt Cynllunio) a'r ymgeisydd i'r materion a godwyd.
|
W/39825
|
Estyniadau a newidiadau yn Fronafon, Login,
Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0TN
|
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
ymweld â'r safle:-
W/39625
|
Datblygiad preswyl arfaethedig o 6 o unedau
tai fforddiadwy. Mae'r cais hefyd yn cynnwys, seilwaith, gwaredu
perth yn rhannol, gwelliannau i'r dirwedd, cynllun lliniaru a
gwella bioamrywiaeth; ac unrhyw waith atodol ar dir oddi ar Heol
Fawr, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JA
Cafwyd
sylwadau gan yr Aelod Lleol a gwrthwynebydd yn ail-bwysleisio rhai
o'r pwyntiau'r gwrthwynebu yn yr adroddiad gan gynnwys:
·
Cais am leihau graddfa'r
datblygiad o 6 i 3 uned fforddiadwy
·
Effaith ar amwynder
trigolion lleol
·
Effaith bosibl ar y
rhwydwaith priffyrdd a achosir gan draffig ychwanegol, yn enwedig
drwy Heol Fawr Abergwili yr effeithir arni gan y parcio presennol
ar y stryd
·
Roedd damweiniau traffig ar
y ffyrdd wedi digwydd yng nghyffiniau'r safle
·
Lleoliad yr orsaf bwmpio a'r
posibilrwydd y gallai arogleuon gwael effeithio ar drigolion
lleol.
RHESWM:
i alluogi'r Pwyllgor i edrych ar y safle mewn perthynas â'r
pryderon a fynegwyd ynghylch dwysedd y datblygiad arfaethedig a'i
effaith bosibl ar y rhwydwaith priffyrdd lleol
(Sylwer: Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas, yn
ystod y cyfarfod wedi dod yn ymwybodol ei fod yn adnabod y
gwrthwynebydd, felly roedd wedi datgan diddordeb a gadael y
cyfarfod.
|
|