Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Mai 2019), er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â phryderon ynghylch y priffyrdd a gweld lleoliad y garafán. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Daeth sylw a wrthwynebai'r cais i law gan yr Aelod Lleol, ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd y dystiolaeth sy'n dangos statws yr ymgeisydd yn sipsi mewn perthynas â Pholisi H7.
Hefyd, mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch problemau posibl o ran cyflenwadau d?r yn yr ardal.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd gan yr Aelod Lleol a'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio E/37947 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (SYLWER: Gan fod y Cadeirydd, sef y Cynghorydd A. Lenny, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Irfon Jones, sef yr Is-gadeirydd).
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 30 Mai 2019), er mwyn i'r Pwyllgor asesu'r effaith debygol y gallai'r datblygiad ei chael ar heneb gofrestredig Bullwark.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) wrth y Pwyllgor na chafwyd sylwadau gan CADW ac argymhellodd y dylai'r cais gael ei ohirio hyd nes y ceir ymateb.
Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau y tro nesaf y bydd y cais yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio'r cais hyd nes y ceir sylwadau gan CADW.
|