Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 9fed Ebrill, 2024 12.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M.J.A. Lewis, A. Leyshon a D. Owen.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

PL/05187

Codi preswylfeydd newydd, mynediad i gerbydau, mannau agored a seilwaith cysylltiedig arall ar dir Cefncaeau, Llanelli

 

Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi at ymweliad preifat â'r safle gan y Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar ran ogleddol safle'r cais.

 

Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r cynnig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Dywedodd fod y safle yn rhan o ardal fwy wedi'i neilltuo ar gyfer tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol a phe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai'r caniatâd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i gynnwys darparu tai fforddiadwy a manteision cymunedol eraill fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.