Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas
01267 224027
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
M.J.A. Lewis, A. Leyshon a D. Owen.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 253 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD
caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
PL/05187
|
Codi preswylfeydd newydd, mynediad i gerbydau, mannau
agored a seilwaith cysylltiedig arall ar dir Cefncaeau,
Llanelli
Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr
Datblygu a Gorfodi at ymweliad preifat â'r safle gan y
Pwyllgor yn gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 o gyfarfod
y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024), a drefnwyd er mwyn i'r
Pwyllgor gael golwg ar ran ogleddol safle'r cais.
Cyfeiriodd, gyda chymorth
sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a
Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â
disgrifiad o'r cynnig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r
ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol
a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Dywedodd fod y safle yn rhan o
ardal fwy wedi'i neilltuo ar gyfer tai o fewn y Cynllun Datblygu
Lleol a phe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai'r
caniatâd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i gynnwys darparu
tai fforddiadwy a manteision cymunedol eraill fel y nodir yn yr
adroddiad.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth
Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a
nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|