Agenda a Chofnodion

Ymweliad Safle, Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 24ain Hydref, 2023 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.P. Jenkins, B.D.J. Phillips, G.B. Thomas a W.T. Evans.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PL/03083 - Addasu hen adeilad ysgol yn breswylfa a chodi 20 o dai fforddiadwy ar dir yr hen ysgol, gan gynnwys yr holl waith cysylltiedig yn hen Ysgol Coedmor, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8ET

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Medi 2023), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch y posibilrwydd byddai'r datblygiad yn edrych i lawr ar eiddo preswyl cyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod  Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais am alw'r cais i mewn, a bod Cyfarwyddyd Erthygl 18 wedi'i gyflwyno, felly roedd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell penderfyniad i gymeradwyo am y rhesymau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·         Roedd Polisi Llywodraeth Cymru yn caniatáu tai fforddiadwy fel estyniad 'bach' i derfynau. Nid oedd y cais presennol ar gyfer 20 o gartrefi o'r fath yn cael ei ystyried yn fach a gellid ei ystyried yn ddatblygiad mawr.

·         Mynegwyd pryder am effaith bosibl y datblygiad ar y Gymraeg, diffyg lle yn yr ysgol leol, dim siopau na thafarndai yn y pentref gan arwain at drigolion yn gorfod teithio mewn car i ardaloedd eraill, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.

·         Nid oedd y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â Pholisïau Llywodraeth Cymru ac nid oedd yn rhoi ystyriaeth i'r egwyddorion creu lleoedd ym mholisi Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040.

·         Roedd mwy o alw am dai fforddiadwy yn Llanybydder.

·         Mynegwyd pryder am sefydlogrwydd y tir roedd yn fwriad adeiladu arno a'r cynnydd posibl yn y perygl o lifogydd.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a wrthwynebai'r cais ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau a wnaed gan y gwrthwynebydd (fel yr uchod) ac y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys:

 

·         Pryder ynghylch diffyg cysylltiadau trafnidiaeth a diffyg amwynderau lleol.

·         Pryderon na fyddai'r tai fforddiadwy yn mynd i ddwylo trigolion lleol.

·         Byddai'r coed roedd yn fwriad eu plannu er preifatrwydd yn cymryd blynyddoedd i dyfu.

·         Byddai'r effaith ar y cyrsiau d?r ar y safle yn arwain at lifogydd.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, llofnodi'r Cytundeb Adran 106, a thynnu'r Hysbysiad Erthygl 18 yn ôl.