Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 17eg Awst, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Jones a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Cynghorydd Michael Thomas

2.               3. Penderfynu ar y Ceisiadau Cynllunio - PL/06001

3.               Gwaredu'r adeiladau presennol, gosod adeilad modiwlaidd a chreu ardal allanol gaeedig ar dir yr ysgol ar gyfer darparu ardal chwarae/dysgu yn yr awyr agored ar gyfer disgyblion awtistig. Bydd yr ardal yn cynnwys mynediad newydd i gerddwyr, mynediad newydd i gerbydau, preifatrwydd, ffensys ac ardal chwarae briwsion rwber yn yr Hen Ysgol, Heol Elfed, Porth Tywyn, SA16 0AL

Mae e wedi bod mewn cysylltiad ag un o’r gwrthwynebwyr ar sawl achlysur ac wedi trafod rhai materion yn ymwneud â’r safle gydag ef a fyddai’n golygu y byddai’n caeltrafferth asesu’r cais. Mae hefyd yn aelod o gorff llywodraethu Ysgol Glan y Môr sydd yn agos iawn i'r safle.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/05770

Newid defnydd adeilad preswyl presennol i D? Amlfeddiannaeth 6 ystafell wely yn 156 Heol yr Orsaf, Llanelli, SA15 1YU

 

 

 

Derbyniwyd sylwadau gan yr aelodau lleol yn gwrthwynebu'r cais, fel y manylwyd yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, yn pwysleisio bod gormod o dai amlfeddiannaeth eisoes yn yr ardal a oedd wedi arwain at gynnydd o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, sbwriel a throsedd yn Ward Tyisha a gafodd effaith ar gydlyniant cymunedol gan wneud yr ardal yn llai deniadol i deuluoedd ifanc a pheri i brisiau tai ostwng.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

Gwnaethpwyd awgrymiadau cryf fod mwy o dai amlfeddiannaeth yn yr ardal na'r nifer cofnodedig a nodwyd yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd.

 

Mewn ymateb i gais ynghylch a ellid gohirio'r cais fel y gellid archwilio'r cwestiwn am dai amlfeddiannaeth, dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu y dylai'r Pwyllgor wneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd ger eu bron heddiw.

 

PL/05786

Adeiladu preswylfa yn unol â chymhwysedd - polisi anghenion lleol ym Mhlas Newydd, Llan-gain, Caerfyrddin, SA33 5AY

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau fod y cais hwn wedi cael ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio am y tro cyntaf ar 22 Mehefin 2023. Atgynhyrchwyd yr adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

PL/06001

Gwaredu'r adeiladau presennol, gosod adeilad modiwlaidd a chreu ardal allanol gaeedig ar dir yr ysgol ar gyfer darparu ardal chwarae/dysgu yn yr awyr agored ar gyfer disgyblion awtistig. Bydd yr ardal yn cynnwys mynediad newydd i gerddwyr, mynediad newydd i gerbydau, preifatrwydd, ffensys ac ardal chwarae briwsion rwber yn yr Hen Ysgol, Heol Elfed, Porth Tywyn, SA16 0AL

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd M. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod.

 

4.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 1 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio, ar gyfer Chwarter 1 am y cyfnod 1 Ebrill 2023 hyd at 30 Mehefin 2023 ar gyfer y gwasanaeth Cynllunio, ac, yn arbennig, yr Is-adran Rheoli Datblygu a Gorfodi.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol mewn perthynas â 2022/23.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at ddangosydd 13 - Cwynion Gorfodi wedi'u cofrestru. Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd ynghylch lleoli carafanau heb ganiatâd cynllunio, dywedodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi y gall y system orfodi fod yn broses hir ac esboniodd y ffactorau a allai effeithio ar yr amserlenni.

 

·        Cyfeiriwyd at Ddangosydd 14 – Canran yr achosion gorfodi sydd wedi cau yr ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod.  Ar ôl adrodd i'r Adran Gynllunio, dywedwyd y gallai fod rhwng 2 a 3 mis cyn y byddai'r troseddwr yn cael hysbysiad ac, yn yr amser hwnnw, mae gwaith pellach wedi'i wneud. Gofynnwyd a fyddai modd anfon llythyr at y troseddwr yn ei hysbysu bod adroddiad wedi'i wneud ac yn gofyn iddo roi'r gorau i'r gwaith hyd nes bod ymchwiliadau'n digwydd?  Eglurodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi, wrth dynnu sylw at y ffaith y dylid cynnal ymchwiliad o fewn 84 diwrnod, fod adroddiadau i'r Adran Gynllunio yn cael eu blaenoriaethu yn dibynnu ar ffactorau amrywiol ac yn unol â'r effaith ar yr amwynderau a'r amgylchedd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 7 Awst, 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20fed Gorffennaf, 2023 yn gofnod cywir.