Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S.M.
Allen a’r Cynghorydd P.M. Edwards.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
J
Gilasbey
|
4 – Cais Cynllunio S/38288 - Cynllun i
ddymchwel yr adeilad ysgol presennol ac ailddatblygu'r safle i
ddarparu ysgol cyfrwng Saesneg newydd â 270 o leoedd a
meithrinfa â 30 o leoedd a hyd at 23 o leoedd amser llawn ar
gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar (gofal cofleidiol) ynghyd â maes parcio, maes
chwaraeon, maes chwarae amlddefnydd a
gwaith tirweddu a seilwaith cysylltiedig, Ysgol y Castell, Stryd y
Prior, Cydweli, SA17 4TR;
|
Is-gadeirydd Corff Llywodraethu'r Ysgol
|
D.
Jones
|
4 – Cais Cynllunio S/38166 Amrywio
amod 5 (oriau agor) o ganiatâd GW/00362 - campfa a chanolfan
ffitrwydd, a gymeradwywyd ar 27/02/2002 - estyn yr oriau agor am awr o 7.00am i agor am
6.00am yng Nghanolfan Iechyd a Ffitrwydd Evolution, Heol Nantyreos, Cross Hands,
Llanelli, SA14 6RJ;
|
Mae
wedi ymdrin â phreswylwyr sy'n byw ger y gampfa o'r
blaen.
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 954 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais
cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
E/37577
|
Preswylfa yn lle'r un bresennol ac adeiladu preswylfa
ar wahân ac iddi ddau lawr â 3 ystafell wely yn
Llettylicky, Crug-y-bar, Llanwrda, SA19
8SL
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle ac ar yr
eiddo cyfagos.
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
Cynllunio ymweld â'r
safleoedd:-
S/34991
|
Datblygiad preswyl o hyd at 94 o breswylfeydd,
mynediad i gerbydau o Heol Maes-ar-Ddafen, lle agored, tirweddu a seilwaith
cysylltiedig arall ar dir yng Nghefncaeau, oddi ar Heol Maes-ar-Ddafen ac Erwlas,
Llwynhendy, Llanelli;
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil
pryderon a godwyd yn lleol;
|
S/38295
|
Adeiladu t? newydd â garej yn rhan ohono ar
Lain 3, Heol Bronallt, Fforest, Llanelli, SA4 7TE
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle a'r hyn
sydd o'i gwmpas;
|
4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod;
S/38166
|
Amrywio amod 5 (oriau agor) o ganiatâd GW/00362
- Amrywio amod 5 (oriau agor) o ganiatâd GW/00362 - campfa a
chanolfan ffitrwydd, a gymeradwywyd ar 27/02/2002 - estyn yr oriau agor am awr o 7.00am i agor am
6.00am yng Nghanolfan Iechyd a Ffitrwydd Evolution, Heol Nantyreos, Cross Hands,
Llanelli, SA14 6RJ;
[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn
gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r
Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
|
S/38288
|
Cynllun i ddymchwel yr adeilad ysgol presennol ac
ailddatblygu'r safle i ddarparu ysgol cyfrwng Saesneg newydd
â 270 o leoedd a meithrinfa â 30 o leoedd a hyd at 23 o
leoedd amser llawn ar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar (gofal
cofleidiol) ynghyd â maes parcio,
maes chwaraeon, maes chwarae amlddefnydd a gwaith tirweddu a seilwaith
cysylltiedig, Ysgol y Castell, Stryd y Prior, Cydweli, SA17
4TR.
[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn
gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Gilasbey Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried
y mater a phenderfynu arno.]
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 918 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais
cynllunio canlynol yn unol â'r
amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod;
W/35345
|
Cais am adeiladu storfa slyri ag ymylon pridd a'r
holl waith cysylltiedig, tir a oedd gynt yn rhan o Sarnginni/Nantyrhafod,
Heol Glantren, Llanybydder, SA40
9SA.
|
|
6. |
COFNODION - 22AIN IONAWR 2019 PDF 183 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 yn gofnod
cywir.
|
7. |
COFNODION - 7FED CHWEFROR 2019 PDF 173 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2019 yn gofnod
gywir.
|