Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer
01267 224029
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Enw
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
Y
Cynghorydd Carys Jones
|
5 -
Cais W/38933 - Newid defnydd t? allan diangen yn un uned breswyl,
adeilad ym Mharc y Cnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan,
Caerfyrddin, SA33 5HA.
|
Mae gan
y Cynghorydd Jones fuddiant personol gan fod yr ymgeisydd yn ffrind
agos iddi.
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 588 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y
manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y
rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
E/38716
|
Materion a gadwyd yn ôl - Uned
ddiwydiannol, maes parcio a gwaith seilwaith cysylltiedig - W/33578
(amrywio amod 3 ar ganiatâd cynllunio amlinellol W/23782 a
gymeradwywyd ar 29/11/2012) (estyniad o ran amser o 9 mlynedd o
ddyddiad y caniatâd amlinellol) ar dir y tu cefn i
Continental Leisure, Heol Parc Mawr, Cross Hands, Llanelli, SA14
6RE
|
3.2 PENDERFYNWYD YN
UNFRYDOL gymeradwyo'r cais cynllunio canlynol yn groes i
argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, yn amodol ar hysbysiad gwyro ac
amodau a fydd yn cael eu drafftio gan y Pennaeth
Cynllunio:-
E/39533
|
Byngalo fforddiadwy wedi'i addasu ar gyfer
pobl ag anableddau, gyda storfa amaethyddol ar wahân ar dir
ger Maesyllyn, Salem, Llandeilo, SA19 7NA
Darllenodd yr Aelod Lleol ddatganiad ar ran yr ymgeisydd. Wrth
i'r datganiad gael ei ddarllen, cafodd gwe-ddarllediad y cyfarfod
ei oedi gan fod y datganiad yn cynnwys gwybodaeth
bersonol.
Yn
dilyn trafodaethau, penderfynwyd caniatáu'r cais yn groes i
argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar sail y canlynol:
·
bod y datblygiad arfaethedig
yn cydweddu ag arddull adeiladau presennol yn y
cyffiniau
·
bod caniatáu'r cais
yn hyrwyddo bywyd gwledig
·
bod y cais yn cefnogi
hawliau dynol a chydraddoldeb
·
angen lleol ac amgylchiadau
cymdeithasol.
.
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 997 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol
er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
S/38285
|
Adeiladu datblygiad preswyl sy'n cynnwys hyd
at 210 o unedau ynghyd â gwaith tirweddu a seilwaith
cysylltiedig ar dir yn Noc y Gogledd, Seaside, Llanelli, SA15
2LY
Cafwyd
sylw gan yr Aelod Lleol yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r
safle er mwyn gweld yr effaith bosibl ar y briffordd a'r amwynderau
lleol.
RHESWM:
Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y datblygiad arfaethedig er
mwyn asesu'r effaith ar y briffordd a'r amwynderau
lleol.
|
4.2 PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio
a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/39456
|
37 o breswylfeydd (fforddiadwy) ar dir i'r
gogledd o Glwb Rygbi T?-croes, Heol Pen-y-garn, T?-croes, Rhydaman,
SA18 3NY
Cafwyd
sylw gan Gyngor Cymuned Llanedi yn gwrthwynebu'r datblygiad
arfaethedig gan ailbwysleisio’r gwrthwynebiadau y manylwyd
arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a
berai bryder fel a ganlyn:
1.
Maint y
datblygiad
2.
Nid oedd y datblygiad o fewn
y CDLl
3.
Materion presennol o ran d?r
wyneb/llifogydd
4.
Dim galw am dai fforddiadwy
yn Nh?-croes
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r ymgeisydd i'r
materion a godwyd.
|
S/39662
|
Garej ar wahân yng Nghlos Cae Derw,
Llangennech, Sir Gaerfyrddin, SA14 8WF
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 532 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais
cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
W/38933
|
Newid defnydd t? allan diangen yn un uned
breswyl wrth adeilad ym Mharc y Cnwc, Heol yr Hen Ysgol,
Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA.
[Sylwer: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn
gynharach, gadawodd y Cynghorydd C. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r
Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].
|
W/39362
|
Ailraddio'n rhannol y llawr caled estynedig
a gadwyd ger tyrbin T6 drwy gyflwyno 7 grid gwartheg yn Fferm Wynt
Alltwalis (Statkraft), Heol Coedllwydion, Alltwalis, Caerfyrddin,
SA32 7ED
|
|
6. |
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14EG TACHWEDD, 2019 PDF 241 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019 yn
gywir.
|