Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 10fed Ionawr, 2019 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Allen, M. Charles a J. James.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Prosser

3 – Cais cynllunio S/37933 - Estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo gyda balconi ar y llawr cyntaf yn 105 Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF

Mae'n adnabod y gwrthwynebydd. Mae'r Cynghorydd wedi bod yn cynnig cyngor i bawb sy'n rhan o'r mater.

D. Phillips

3 – Cais cynllunio S/37933 - Estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo gyda balconi ar y llawr cyntaf yn 105 Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF

Mae'n adnabod asiant yr ymgeisydd.

 

 

3.

S/37933 - ESTYNIAD UNLLAWR YNG NGHEFN YR EIDDO GYDA BALCONI AR Y LLAWR CYNTAF YN 105 PENTRE NICKLAUS, LLANELLI SA15 2DF. pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Phillips a'r Cynghorydd J. Prosser Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 13 Rhagfyr 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Dywedodd fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau a oedd wedi'u nodi yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd colli preifatrwydd gan y gellid edrych dros eiddo eraill o'r balconi arfaethedig, colli golau'r haul yn y bore, gwaethygu problemau draenio yn yr ardd, a'r pryder y gallai gwerth eiddo cyfagos ostwng. Felly, ym marn y gwrthwynebydd, roedd y cais yn mynd yn groes i Bolisi GP1 a Pholisi GP6 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebydd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/37933 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod bryd y Pwyllgor Cynllunio ar gymeradwyo'r cais canlynol, yn amodol ar ddatrys y materion a godwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr Asesiad Canlyniad Llifogydd, gohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Cyfarwyddyd Erthygl 18, a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:

 

S/36948 – Datblygiad Llesiant a Gwyddor Bywyd gan gynnwys: Canolfan Iechyd Cymuned (Sefydliad Gwyddor Bywyd, Canolfan Addysg Llesiant a Chanolfan Darpariaeth Glinigol) hyd at 16,500 metr sgwâr (Dosbarthiadau Defnydd: D1 Sefydliad Amhreswyl, B1 (B) Ymchwil a Datblygu o ran Busnes, a C2 Sefydliad Preswyl). Canolfan Fusnes Gwyddor Bywyd (swyddfeydd yn y Sector Ymchwil a Datblygu) hyd at 10,000 metr sgwâr (Dosbarth Defnydd: B1 (B) Ymchwil a Datblygu o ran Busnes a B2 Diwydiant Ysgafn).Canolfan Llesiant (canolfan ymwelwyr a chyfleusterau corfforaethol, cymunedol, hamdden a chwaraeon) hyd at 11,000 metr sgwâr (Dosbarth Defnydd: D2 Ymgynnull a Hamdden). Byw â chymorth (gofal nyrsio, gofal preswyl, tai gofal ychwanegol a chyfleusterau adsefydlu clinigol) sy'n cynnwys hyd at 370 o welyau/unedau a 7,500 metr sgwâr (Dosbarthiadau Defnydd: C2 Sefydliad Preswyl, C3 (A) a C3 (B) Preswyl). Lle hamdden awyr agored cysylltiedig, mannau hamdden a therapi; tirweddu a llecynnau cyhoeddus; seilwaith ynni a'r cyfleustodau; mynediad a lleoedd parcio ar dir yn Llynnoedd Delta, Llanelli, ym Mhentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, tir yn Llynnoedd Delta, Llanelli.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod llythyr wedi dod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru ers i'r agenda a'r atodiad gael eu cyhoeddi. Roedd y llythyr yn nodi y gofynnwyd i Weinidogion Cymru alw'r cais i mewn ac ystyried penderfynu ynghylch y cais eu hunain. Felly, roedd y llythyr yn cyfarwyddo'r Awdurdod Cynllunio Lleol [yn unol ag Erthygl 18 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012] i beidio â chaniatáu'r cais cynllunio cyn iddo gael ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru. Roedd y llythyr yn nodi bod y Cyfarwyddyd hwn ond yn atal y Cyngor rhag caniatáu'r cais cynllunio. Nid oedd yn atal yr Awdurdod a'r Pwyllgor Cynllunio rhag parhau i brosesu ac ymgynghori ynghylch y cais neu rhag gwrthod y cais cynllunio. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn dal i aros am benderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch a fyddant yn galw'r cais i mewn neu beidio er mwyn iddynt benderfynu yn ei gylch. Os oedd bryd y Pwyllgor ar gytuno â'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a'r atodiad, byddai'n gwneud penderfyniad heddiw fod ei fryd ar gymeradwyo'r cais hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch galw'r cais i mewn.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod ac a ailbwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid oedd yr asesiad llifogydd yn rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd. Mae'r safle yn agored i lifogydd yn sgil ymchwyddiadau enfawr y llanw a achosir gan gorwyntoedd dros yr Iwerydd, yn enwedig gan fod corwyntoedd o'r fath wedi digwydd yn amlach dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cynnydd yn lefelau'r môr yn debygol o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.