Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, H.I. Jones a D.E. Williams.
|
|||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS REBECCA LOUISE BURTON PDF 126 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Mrs Rebecca Louise Burton o The Old Mill, Dre-fach Felindre, Llandysul, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Burton ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mrs Burton yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mrs Rebecca Louise Burton Lewis yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol. Y Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR LIONEL HUGH PHILLIPS PDF 118 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Lionel Hugh Phillips o Elm Lodge, Cwmbach, Hendy-gwyn ar Daf am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Phillips ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Phillips yn cael ei gymeradwyo.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD gwrthod cais Mr Lionel Hugh Phillips am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Y RHESYMAU: Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||
DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT PDF 139 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Mr Lionel Hugh Phillips wedi tynnu ei gais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn ôl yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod ei gais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat [gweler cofnod 4 uchod]. |
|||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR SIMON JOHN GRIFFITHS PDF 118 KB Cofnodion:
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Mr Griffiths wedi rhoi gwybod i'r swyddogion nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a'i fod wedi gofyn am ohirio ystyried ei gais.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Simon John Griffiths am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.
|
|||||
CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR BERNARD PRICE PDF 128 KB Cofnodion: Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Mr Price wedi rhoi gwybod i'r swyddogion nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a'i fod wedi gofyn am ohirio ystyried ei gais.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Bernard Price am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.
|
|||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DANIEL PETER LEAVER PDF 128 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Daniel Peter Leaver o 1 Dyffryn Tywi, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Leaver ynghylch ei gais. .
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Leaver yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Daniel Peter Leaver am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Y Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr David William Davies o 15 Maes y Ffair, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davies yn cael ei ganiatáu ond ei fod yn cael ei atal am 7 diwrnod.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr David William Davies am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Y Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||
ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch adolygiad o'r Polisi Hapchwarae a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol 2018 a'r Polisi Hapchwarae diwygiedig - Deddf Hapchwarae 2005. Nododd yr Aelodau fod y Polisi Hapchwarae presennol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod ym mis Chwefror 2016 wedi dod i rym ar 11 Mawrth 2016. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Hapchwarae gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. Roedd y Polisi Hapchwarae yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||
ADOLYGIAD O'R POLISI TRWYDDEDU PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018, cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch yr adolygiad o Bolisi Trwyddedu'r Awdurdod a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Ymgynghori ynghylch y Polisi Trwyddedu a Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses o ymgynghori ac adolygu. Roedd y Polisi Trwyddedu presennol wedi'i fabwysiadu ym mis Chwefror 2016, yn amodol ar gynnal ymgynghoriadau pellach ynghylch y posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Ym mis Ebrill 2018, diwygiwyd y ddeddfwriaeth er mwyn cyfeirio at Asesiadau Effaith Gronnol yn hytrach na Pholisïau Effaith Gronnol. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori rhwng 3 Ebrill a 1 Mehefin 2018 yn benodol ar gyfer awdurdodau cyfrifol, preswylwyr lleol, busnesau, deiliaid trwydded presennol a'u cynrychiolwyr gan gyrraedd 1000 o unigolion a sefydliadau. Nododd y Pwyllgor fod y ddogfen polisi trwyddedu ddiwygiedig a oedd yn amgaeedig wrth yr adroddiad, yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu. O ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori, y prif fater a godwyd oedd y darparwyd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Roedd y cynllun dirprwyo wedi'i ddiwygio i adlewyrchu arferion da a newidiadau i'r ddeddfwriaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Trwyddedu diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003 GWEITHDREFNAU AWDURDODI FFILMIAU PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn ddrafft o ddogfen Gweithdrefnau Awdurdodi Ffilmiau a oedd yn nodi proses eglur ar gyfer dosbarthu ffilmiau i'w dangos mewn mannau cyhoeddus, yn dilyn ymarfer ymgynghori diweddar ynghylch nifer o geisiadau mewn perthynas â chaniatáu i blant wylio ffilmiau byrion sydd heb eu dosbarthu. Roedd y weithdrefn yn seiliedig ar ddogfen arferion gorau a luniwyd gan Banel Arbenigwyr Trwyddedu Cymru Gyfan a oedd wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r cynllun dirprwyo a nodir yn y Polisi Trwyddedu diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Nododd y weithdrefn y byddai ceisiadau am ddosbarthu ffilmiau'n cael eu cyfeirio at Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu arnynt, ac eithrio ceisiadau mewn perthynas â rhoi caniatâd i ddangos ffilm a awdurdodwyd gynt mewn lleoliad gwahanol, gan y byddai'r swyddogion yn ymdrin â hwy yn y lle cyntaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Gweithdrefnau Awdurdodi Ffilmiau.
|
|||||
PENODI AELODAU I EISTEDD AR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AR GYFER GWEDDILL 2018-19 PDF 126 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a oedd yn manylu ar aelodaeth arfaethedig Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19 yn dilyn newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19 fel a ganlyn:-
Is-bwyllgor Trwyddedu "A” Cynghorwyr: Fozia Akhtar, Mansel Charles; Ann Davies; Rob Evans: Amanda Fox; Ken Howell ac Elwyn Williams.
Is-bwyllgor Trwyddedu B” Cynghorwyr: Tyssul Evans; Penny Edwards; Irfon Jones; Andre McPherson; Susan Phillips, Edward Thomas ac Eirwyn Williams.
|
|||||
PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AR GYFER WEDDILL FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19 Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19 yn dilyn newidiadau o ran yr aelodau'n ddiweddar.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
IS BWYLLGOR TRWYDDEDU 'B' A GYNHALIWYD AR Y 31AIN GORFFENNAF 2018 PDF 190 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|||||
IS BWYLLGOR TRWYDDEDU 'A' A GYNHALIWYD AR Y 18FED MEDI 2018 PDF 71 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|||||
IS BWYLLGOR TRWYDDEDU 'B' A GYNHALIWYD AR Y 26AIN MEDI 2018 PDF 372 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Awst 2018 gan eu bod yn gywir.
|