Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Runeckles 01267 224674
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd bod y Cynghorydd Ken Howell wedi'i gofnodi ddwywaith ar y dudalen bresenoldeb a byddai hyn yn cael ei gywiro yn y cofnodion llofnodedig.
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi'i gynnal ar 6 Chwefror 2025 gan eu bod yn gywir |
|
EXCLUSION OF THE PUBLIC. NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|
MR HANI ROSTEENMEHR - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNI/HURIO PREIFAT. Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Hani Rosteenmehr o 83 Parc Gwernen, T?-croes, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Rosteenmehr am ei gais a'r amgylchiadau a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Rosteenmehr yn cael ei wrthod.
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Rosteenmehr am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat. |
|
MR STEPHEN GILLEY - TRWYDDED YRRU DDEUOL AR GYFER CERBYD HACNI/HURIO PREIFAT. Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor fod Mr Stephen Gilley o 18 Stryd Newydd, Porth Tywyn yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat gyda'r awdurdod hwn. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Gilley.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Gilley yn cael ei dirymu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Mr Gilley. |
|
MR ROBERT EDWARD JAMES JOHN - HACKNEY CARRIAGE/PRIVATE HIRE DUAL DRIVERS LICENCE Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Robert Edward James John o 80 Lôn Hafren, Sanclêr yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat gyda'r awdurdod hwn. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr John.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr John yn cael ei dirymu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod trwydded yrru ddeuol Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Mr John yn cael ei dirymu. |
|
MR EDWARD PAUL DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at yr eitem ar yr agenda y diwrnod hwnnw yn ymwneud â Mr Edward Paul Davies o 25 Heol Pontarddulais, T?-croes, Rhydaman, sy'n meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod hwn, a dywedodd fod yr eitem wedi'i thynnu yn ôl am y rhesymau a nodwyd yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD bod yr eitem yn cael ei thynnu yn ôl a bod yr Uwch-swyddog Trwyddedu yn anfon llythyr at Mr Davies yngl?n â'r materion a godwyd yn y cyfarfod. |
|
MR CLAYTON WAYNE WATTS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at yr eitem ar yr agenda y diwrnod hwnnw yn ymwneud â Mr Clayton Wayne Watts o 49 Ynys Las, Llanelli, sy'n meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat gyda'r Awdurdod hwn, a dywedodd fod yr eitem wedi'i thynnu yn ôl am y rhesymau a nodwyd yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dynnu'r eitem yn ôl. |