Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 6ed Chwefror, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 23 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Rhagfyr, 2024 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

ADOLYGIAD O'R POLISI GAMBLO pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch adolygiad o'r Polisi Gamblo a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol 2024 a'r Polisi Gamblo diwygiedig - Deddf Gamblo 2005.

 

Nododd yr Aelodau fod y Polisi Gamblo cyfredol wedi'i fabwysiadu ddiwethaf gan yr awdurdod ym mis Rhagfyr 2022. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Gamblo gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.

 

Rhoddwyd gwybod bod yr Awdurdod wedi bod mewn cyswllt agos â chynrychiolydd o'r Comisiwn Hapchwarae yn ogystal ag adain drwyddedu awdurdodau trwyddedu Sir Benfro, Powys a Cheredigion, gyda'r nod o sicrhau dull cyson o ran ymdrin â'r Polisi Gamblo diwygiedig cyn belled ag y bo modd.  Roedd Adain Drwyddedu'r Awdurdod, ar y cyd ag Adran Gyfreithiol y Cyngor, wedi adolygu'r ddogfen bolisi yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Nododd y Pwyllgor y newidiadau allweddol i'r Polisi Gamblo fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd mewn perthynas â gamblo ar-lein, eglurodd yr Arweinydd Trwyddedu, er nad oedd yn gallu darparu gwybodaeth fanwl am y defnydd o gamblo ar-lein gan fod hyn o fewn cylch gwaith y Comisiwn Hapchwarae ac nid yr Awdurdod Lleol, roedd yn hysbys fel rhan o adolygiad o'r Ddeddf Gamblo gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) y canolbwyntir ar fonitro a diogelu rheolaethau gamblo ar-lein.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET fod y Polisi Gamblo diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod bod Eitem 6 ar yr Agenda wedi cael ei thynnu'n ôl. Gan nad oedd unrhyw eitemau eraill i'w hystyried ni fyddai angen gorchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod.

 

 

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.