Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 27ain Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Jones a L. Roberts.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 27 MEHEFIN 2023. pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 yn gofnod cywir.

 

 

4.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - ADOLYGIAD O'R POLISI TRWYDDEDU ASESIADAU O'R EFFAITH GRONNOL pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Asesiadau Effaith Gronnol yr Adolygiad o'r Polisi Trwyddedu yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wrthi ar hyn o bryd yn adolygu'r Asesiadau Effaith Gronnol presennol sydd mewn grym ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli a Heol Awst, Caerfyrddin yn ogystal â cheisio barn ynghylch mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol pellach ar gyfer Maes Nott, Heol y Brenin a Heol y Frenhines, Caerfyrddin.  Dywedwyd bod yr ardaloedd hyn yn destun ymgynghoriad oherwydd eu bod yn ardaloedd problemus o ran Troseddau ac Anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol ac oherwydd y lefelau Troseddau ac Anhrefn sy'n cael eu riportio yn yr ardaloedd hynny.

 

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i drigolion lleol, busnesau a deiliaid trwydded presennol a’u cynrychiolwyr gyflwyno sylwadau yn ffurfiol ar y cynnig a darparu adborth i'r Awdurdod.  I gynorthwyo ymatebwyr, dywedwyd bod arolwg ar-lein wedi cael ei ddarparu ar wefan y cyngor.

 

Nododd yr Aelodau y byddai'n bwysig i unrhyw dystiolaeth a gynhwysir yn yr Asesiadau Effaith Gronnol diwygiedig fod yn gadarn ac yn berthnasol i'r problemau cyfredol a ddisgrifir.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch effeithiolrwydd yr Asesiadau Effaith Gronnol a oedd ar waith, eglurodd yr Arweinydd Trwyddedu ei bod yn anodd mesur eu heffeithiolrwydd ond bod yna achosion wedi bod lle gwrthodwyd ceisiadau o fewn yr ardaloedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod aelodau'r Pwyllgor yn cwblhau'r arolwg ar-lein fel rhan o’r ymgynghoriad ynghylch y Polisi Trwyddedu ac yn annog grwpiau a phobl eraill i gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori.

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

6.

MRS BEVERLEY WILMA LEWIS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi'i dderbyn gan Mrs BeverleyWilma Lewis 21 Ty Plas Isaf, Heol Hendre, Llangennech am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i thrwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Lewis ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mrs Lewis yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu’r cais a gyflwynwyd gan Mrs Beverley Wilma Lewis am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

7.

MR ROBERT DANIEL ISAAC - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor nad oedd Mr Robert Daniel Isaac yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a gofynnodd am ganiatâd i ohirioystyried cais Mr Isaac tan y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr Robert Daniel Isaac tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

8.

MR DARREN LEE HUNG - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Darren Lee Hung o 9 Clos y Gelli, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais.

 

Ar hynny bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hung ynghylch y cais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Hung yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Darren Lee Hung am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.