Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 21ain Medi, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Jones, K. Madge a D. E. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 27 GORFFENNAF 2023. pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf2023 yn gofnod cywir.

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

5.

MR IAN RICHARD PRICE - DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Ian Richard Price, Crynga Bach, Llwyndrain, Llanfyrnach am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Gan nad oedd Mr Price yn bresennol yn y cyfarfod, gofynnodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu am ohirio'r ystyriaeth i'r cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais a gyflwynwyd gan Mr Price i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

6.

MR PHILIP GEORGE MALIPHANT - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Philip George Maliphant, Ystafell Fach, Heol Llanddarog, Llanarthne am ganiatáu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Maliphant ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Maliphant yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Maliphant am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

7.

MR ROBERT DANIEL ISAAC - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.

MR STEVEN PETER CAREY - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Steven Peter Carey, 38 Mount Pleasant, Tre-g?yr, Abertawe am ganiatáu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais.

 

Roedd yr Pwyllgor wedi cyfweld â Mr Carey ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu a chynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Carey yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD wrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr Carey am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhesymau

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd ac wrth ystyried y canllawiau perthnasol, roedd y Pwyllgor yn fodlon nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.   

9.

MR GEORGE JULIAN PETER CHEESEMAN - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybod, ar ôl cyflwyno'r wybodaeth a oedd ei hangen fel rhan o brosesau llywodraethu'r Awdurdod, fod yr eitem wedi'i thynnu'n ôl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod yr eitem wedi'i dynnu'n ôl.

10.

MR NATHAN EDWARD JAMES COURTNEY - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybod, ar ôl cyflwyno'r wybodaeth a oedd ei hangen fel rhan o brosesau llywodraethu'r Awdurdod, fod yr eitem wedi'i thynnu'n ôl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod yr eitem wedi'i dynnu'n ôl.