Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 12fed Gorffennaf, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Cooper

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - PENODI IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn sgil darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a roddai fanylion ynghylch aelodaeth arfaethedig yr Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer blwyddyn y cyngor 2022/23

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2022/23 fel a ganlyn:

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

Y Cynghorwyr Mansel Charles, Peter Cooper, Michael Cranham, Suzy Curry, Alex Evans, Tyssul Evans a Ken Howell.

 

Is-bwyllgor Trwyddedu B”

Y Cynghorwyr Dot Jones, Hefin Jones, Jean Lewis, Kevin Madge, Dorian Phillips a Elwyn Williams

 

 

4.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2022/23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

benodi'r Cynghorydd Mansel Charles yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "A" am Flwyddyn y Cyngor 2022/23;

4.2

benodi'r Cynghorydd Elwyn Williams yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" am Flwyddyn y Cyngor 2022/23

 

 

5.

TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Nathan Edward James Courtney o Courtney Wedding Cars Ltd, 42 Maes y Capel, Pen-bre am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbyd hurio preifat PH564, Telsa Model X rhif cofrestru GU67 FKO.

 

Dywedwyd gan mai bwriad Mr Courtney oedd defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth hurio dethol / o feysydd awyr/porthladdoedd a proms  yn unig, roedd  wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl y cerbyd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor petai'n cytuno  i ganiatáu eithriad i Mr Courtney, y byddai'r amodau canlynol yn cael eu rhoi ynghlwm wrth y drwydded:-

 

-       Bod y cerbyd trwyddedig, sef Telsa Model X PH564 ac iddo'r rhif cofrestru GU67 FKO, yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra câi ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Courtney;

-       Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Hurio Preifat, yn hytrach na hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

-       Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Nathan Edward James Courtney am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i gerbyd hurio preifat PH564 Telsa Model X, rhif cofrestru GU67 FKO.

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 5ED EBRILL, 2022 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 5 Ebrill, 2022 yn gofnod cywir.

 

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

8.

MR MARTIN DUNNE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod o 116 Stryd Fawr, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.   .  

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Dunne ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Dunne yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Martin Dunne yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

9.

MR JASON LEWIS THOMAS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jason Lewis Thomas o 28 Lôn Hafren, Sanclêr, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Thomas ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Thomas yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Jason Lewis Thomas yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

10.

MR KIERAN ROGER PRYOR BOWEN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr Kieran Roger Pryor Bowen o 69 Ynys Las, Llwynhendy, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Fodd bynnag, gan nad oedd Mr Bowen yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, roedd wedi gofyn i'r cais gael ei ystyried yn ei absenoldeb.

 

Cyflwynodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu y cais i'r Pwyllgor gan argymell bod cais Mr Kieran Roger Pryor Bowen yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Kieran Roger Pryor Bowen am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

11.

MRS NICOLA JAYNE JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mrs Nicola Jayne Jones o 88 Caecoed, Llandybie, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Jones ynghylch ei chais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mrs Nicola Jayne Jones yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mrs Nicola Jayne Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.  

 

 

12.

MRS ABIGAIL RACHEL JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at y cais a dderbyniwyd gan Mrs Abigail Rachel Jones o 44 Heol Stepney, Garnant, Rhydaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a gofynnodd i ystyriaeth o'r mater gael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mrs Abigail Rachel Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

13.

MR ADAM LEE MORSE - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan  Mr Adam Lee Morse o 33B Stryd y Parc Brynaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Morse ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Adam Lee Morse’s yn cael ei wrthod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Adam Lee Morse am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.