Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry, P. Edwards ac A. Fox. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022, gan eu bod yn gywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2022 gan eu bod yn gywir. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
MR MOHAMMAD ASHRAF - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: [Sylwer: Roedd Mr Ashraf yn bresennol dros y ffôn].
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan Mr Mohammad Ashraf o Meadow Croft, Bronwydd Arms, Caerfyrddin, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Ashraf ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Ashraf yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Mohammad Ashraf yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR DONALD LYN EVANS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Donald Lyn Evans Williams o 1 Heol Llwyd, Rhydaman, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Cafodd y Pwyllgor er ystyriaeth sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans a'i gynrychiolydd ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Evans yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Donald Lyn Evans am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|
MR MARK EDWARD JOHN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Mark Edward John o 18 Brynderwen, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Cafodd y Pwyllgor er ystyriaeth sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John a'i gynrychiolydd ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr John yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cais a gyflwynwyd gan Mr Mark Edward John am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei wrthod.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|
MRS SARAH HELENA HAVARD - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Rebecca Sarah Helena Havard o 52 Banc-y-Ddraenen, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mrs Sarah Helena Havard yn bresennol yn y cyfarfod a'i bod wedi methu ag ymgysylltu â'r Awdurdod yngl?n â'r ohebiaeth a roddwyd iddi. Gan roi sylw i'r uchod
PENDERYNWYD YN UNFRYDOL i benderfynu ar y mater yn absenoldeb Mrs Sarah Helena Havard.
Cafodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu yn rhoi manylion y mater. Argymhellodd y dylid dirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mrs Havard ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mrs Havard ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm:
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded. |