Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.M. Edwards, A.L. Fox, T.J. Jones ac A.S.J. McPherson.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|
IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 14 RHAGFYR 2021 PDF 277 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 7 RHAGFYR 2021 PDF 258 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu "B" oedd wedi ei gynnal ar 7 Rhagfyr, 2021 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2021 gan eu bod yn gywir.
|
|
ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch adolygiad o'r Polisi Hapchwarae a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol 2021 a'r Polisi Hapchwarae diwygiedig - Deddf Hapchwarae 2005.
Nododd yr Aelodau y Polisi Hapchwarae presennol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod ym mis Rhagfyr 2018. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Hapchwarae gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni.
Nodwyd bod yr Awdurdod wedi bod mewn cyswllt agos â chynrychiolydd o'r Comisiwn Hapchwarae yn ogystal ag adrannau trwyddedu awdurdodau trwyddedu Sir Benfro, Powys a Cheredigion, gyda'r nod o sicrhau, cymaint â phosibl, ymagwedd gyson at y Polisi Hapchwarae diwygiedig. Roedd Adain Drwyddedu yr Awdurdod, ar y cyd ag Adran Gyfreithiol y Cyngor, wedi adolygu'r ddogfen bolisi yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Nododd y Pwyllgor y newidiadau allweddol i'r Polisi Hapchwarae fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
· Gan gyfeirio at un o'r datganiadau allweddol a godwyd o ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori a'r adolygiad; “Dim tystiolaeth glir bod rhannau penodol o'r sir yn dioddef o broblemau sy'n gysylltiedig â hapchwarae", gofynnwyd o ba ffynhonnell a thystiolaeth y lluniwyd y datganiad hwn? Eglurodd yr Arweinydd Trwyddedu fod y datganiad wedi'i ffurfio ar sail yr ymatebion a gafwyd fel rhan o'r ymgynghoriad.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch casinos, esboniodd yr Arweinydd Trwyddedu, er nad oedd casino yn gweithredu yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, nad oedd unrhyw ddatrysiad ar waith i wahardd casinos yn y Sir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dim ond mewn rhai rhannau o'r DU y caniateir casinos ac nid yw Sir Gaerfyrddin wedi'i chynnwys ar y rhestr o'r rhanbarthau hynny ac felly nid yw'r Awdurdod mewn sefyllfa i roi Trwydded Casino.
· Mynegwyd pryderon mewn perthynas â hysbysebu casinos rhithwir/ar-lein a bod hygyrchedd yn broblem i lawer o unigolion. Dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod gamblo rhithwir/ar-lein yn cael ei reoli gan y Comisiwn Hapchwarae ac felly nid oedd gan yr Awdurdod b?er i reoli hysbysebu mewn perthynas â'r dull hwn o hapchwarae. Fodd bynnag, mae'r Awdurdod yn bwriadu rhannu'r pryderon a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch hapchwarae o bell gyda'r Comisiwn Hapchwarae.
· Mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae mewn siopau, dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu wrth y Pwyllgor, er mwyn amddiffyn plant a phobl sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu ddioddef camfantais yn sgil gamblo, fod yr awdurdod yn bwriadu ymgysylltu ymhellach â deiliaid trwydded i sicrhau y byddai mesurau digonol ar waith i sicrhau nad oes gan blant dan 18 oed fynediad i'r peiriannau hapchwarae i oedolion yn unig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET fod y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
MR DONALD LYN EVANS TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Donald Lyn Evans o 1 Heol Llwyd, Rhydaman yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat gyda'r Awdurdod hwn.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Evans ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei dirymu.
Ar hynny:
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Evans ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm:
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod gweithredoedd Mr Evans yn achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded.
|