Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S Davies
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU / MATERION ERAILL Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, P. Edwards, H.I. Jones, S. Phillips ac E. Thomas. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai hwn oedd y cyfarfod olaf o'r Pwyllgor Trwyddedu y byddai Mr Mike Price yn bresennol ynddo gan ei fod yn ymddeol cyn bo hir. Diolchwyd i Mr Price am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor dros yr 20 mlynedd diwethaf a dymunwyd yn dda iddo yn y dyfodol. Mynegodd y Cadeirydd werthfawrogiad y Pwyllgor i Mr Price.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
MR IVOR JOHN DANIEL - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 183 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Ivor John Daniel o 41 Heol Bethesda, y Tymbl, am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Daniel ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Daniel yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Ivor John Daniel am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR TONY ROBERT WILLIAMS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 183 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Tony Robert Williams o 2 Heol y Ffawydd, Caerfyrddin, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Williams ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Williams yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Tony Robert Williams am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|
MR THOMAS GEORGE CARPENTER - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 183 KB Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Thomas George Carpenter o T? Hedd, Trem y Dref, Caerfyrddin, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Carpenter ynghylch ei gais ac yn clywed geirdaon gan ei gyflogwr presennol, ac oddi wrth ei ddarpar gyflogwr a oedd yn bresennol.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Carpenter yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Thomas George Carpenter am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Y rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
HYFFORDDIANT DIOGELU AR GYFER YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 209 KB Cofnodion: Gwyliodd y Pwyllgor Fideo Hyfforddiant Diogelu y gellid ei ddefnyddio ar gyfer yr holl Yrwyr Tacsi a Chynorthwywyr Teithwyr yn Ardal Heddlu Dyfed-Powys, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys. Roedd y fideo wedi'i chreu fel rhan o gyd-fenter rhwng yr Awdurdod a'r Heddlu, a thalwyd amdano drwy ddefnyddio arian a godwyd o dan y Ddeddf Enillion Troseddau gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Awgrymwyd bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn cael ei ganmol am y fenter.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Fideo Hyfforddiant Diogelu.
|
|
COFNODION - IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" - 9 MAI 2019 PDF 135 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
COFNODION - Y PWYLLGOR TRWYDDEDU - 23 MAI 2019 PDF 317 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Mai 2019, gan eu bod yn gywir.
|