Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Iau, 3ydd Medi, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, A. Davies, I.J. Jackson, D.J.R. Llewellyn ac M.K. Thomas.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y Cynghorydd Keith Davies ac estynnodd ei gydymdeimlad â theulu'r Cynghorydd Davies.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â Mr Justin Power, yr Uwch Swyddog Trwyddedu, ar farwolaeth ei dad.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

P.E.M. Jones

6 - Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod yr ymgeisydd.

 

3.

MRS LINDA VICTORIA MORGAN - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor fod Mrs. Morgan wedi cysylltu â'r swyddogion i ddweud na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mrs. Linda Victoria Morgan am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

4.

TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 185 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. David Mark Jones-Dunstall o South Wales Travel, Bwthyn y Coed, 1 Dol y Dderwen, Bonllwyn, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, am ganiatâd i gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i Renault Grand Scenic ac iddo'r rhif cofrestru SP11 NJZ.

Gan fod Mr. Jones-Dunstall yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth hurio dethol a busnes yn unig, roedd wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar bympar ôl ei gerbyd.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, petai'r Pwyllgor Trwyddedu yn cytuno i eithrio Mr. Jones-Dunstall o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, y byddai'r Amodau Trwyddedu canlynol yn cael eu hychwanegu at y drwydded:-

 

[i] Bod y cerbyd trwyddedig, sef Renault Grand Scenic  ac iddo'r rhif cofrestru SP11 NJZ, yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth hurio dethol a busnes, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Jones-Dunstall;

 

[ii] Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Hurio Preifat heblaw gwasanaeth hurio dethol a busnes, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

 

[iii] Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cais a gyflwynwyd gan Mr David Mark Jones-Dunstall am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbyd Renault Grand Scenic  ac iddo'r rhif cofrestru SP11 NJZ yn cael ei ganiatáu yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

5.

MRS SARAH JENNA WYNNE - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor fod Mrs. Wynne wedi cysylltu â'r swyddogion i ddweud na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ond ei bod yn fodlon bod penderfyniad ynghylch ei chais yn cael ei wneud yn ei habsenoldeb. Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod mater wedi codi yn ymwneud â chais Mrs. Wynne.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mrs. Sarah Jenna Wynne am adnewyddu ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

6.

MR CHRISTOPHER GRAHAM RICHARDS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

(Noder: Gan ei bod wedi datgan buddiant personol yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd P.E.M. Jones yn bresennol yn y cyfarfod tra oedd yr aelodau'n ystyried y cais hwn ac yn penderfynu yn ei gylch).

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Christopher Graham Richards o 7 Heol Dolau Fan, Porth Tywyn yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod, a bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Richards ynghylch mater oedd wedi codi ynghylch ei drwydded.

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod Mr Richards yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Christopher Graham Richards yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rhesymau

Barnai'r Pwyllgor, ar ôl rhoi sylw i'r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod, fod hyn yn ymateb cymesur.

 

7.

MR PHILIP MARK JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais Mr Philip Mark Jones o 23 Trem y Bryn, Caerfyrddin, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais. Hefyd cafodd y Pwyllgor ddatganiad yn cefnogi cais Mr. Jones gan Mr. C. Williams o LRC Training.

Argymhellodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod y cais yn cael ei ganiatáu a bod Mr Jones yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Philip Mark Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

MR ANDREW STUART MARLING - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd Mr. Marling yn bresennol ac nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i roi gwybod iddynt beth oedd ei fwriadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr. Andrew Stuart Marling am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor ynghyd â rhoi gwybod iddo y gellid penderfynu ar y cais yn ei absenoldeb pe bai'n methu dod i'r cyfarfod hwnnw.

 

9.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 / DEDDF HAPCHWARAE 2005 - ADOLYGIAD O’R POLISI TRWYDDEDU / ADOLYGIAD O’R POLISI HAPCHWARAE

Cofnodion:

Dywedodd y Pen-swyddog Trwyddedu fod Cyngor Sir Caerfyrddin wrthi ar hyn o bryd yn adolygu ei Bolisïau Trwyddedu a Hapchwarae. Roedd yn rhaid cynnal adolygiadau o'r polisïau statudol o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol a'u bod yn adlewyrchu adborth y gymuned leol bod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. Fel rhan o'r adolygiadau roedd yn ofynnol i'r Cyngor gynnal ymarfer ymgynghori ac roedd manylion yr ymgynghoriadau wedi cael eu hanfon at nifer o bartïon oedd â buddiant, gan gynnwys deiliaid trwydded, busnesau, trigolion lleol a'u cynrychiolwyr.     Roedd y ddau ymgynghoriad wedi dod i ben ar 13 Medi 2015. Cafodd yr aelodau o'r Pwyllgor Trwyddedu oedd heb gyflwyno ymateb i'r ymgynghoriadau eisoes eu hannog i gwblhau'r dogfennau ymgynghori er mwyn iddynt gael eu cyflwyno a bod yn rhan o'r adolygiadau polisi.

NODWYD.

 

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU “C" A GYNHALIWYD AR Y 21AIN GORFFENNAF 2015 pdf eicon PDF 297 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-Bwyllgor Trwyddedu 'C' a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf, 2015 yn gofnod cywir.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y 25AIN MEHEFIN 2015 pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2015 yn gofnod cywir.