Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. Croesawodd yr Arweinydd y Cynghorydd Carys Jones, i'w Chyfarfod Cabinet cyntaf fel yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio.</AI1>
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: There Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.</AI2>
|
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: The Chair advised that no questions on notice had been submitted by members. |
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: |
|
CWESTIWN GAN SION DAVIES I'R CYNG. EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH "O ystyried y pryderon eang ymhlith gweithlu casglu gwastraff Sir Gaerfyrddin ynghylch y newid arfaethedig i gasglu biniau du bob pedair wythnos a chanoli gweithrediadau gwastraff yn Nantycaws, gan gynnwys ofnau am ddechrau'n gynt, teithio'n bellach a'r effaith ar gymunedau lleol, a wnaiff yr Aelod Cabinet esbonio pam mae'r cynigion hyn yn cael eu datblygu er gwaethaf anfodlonrwydd clir ymhlith y rhai y byddant yn effeithio arnynt fwyaf?"
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mr Davies yn bresennol i ofyn ei gwestiwn a'i fod wedi gofyn i'r cwestiwn gael ei ofyn ar ei ran.
"O ystyried y pryderon eang ymhlith gweithlu casglu gwastraff Sir Gaerfyrddin ynghylch y newid arfaethedig i gasglu biniau du bob pedair wythnos a chanoli gweithrediadau gwastraff yn Nantycaws, gan gynnwys ofnau am ddechrau'n gynt, teithio'n bellach a'r effaith ar gymunedau lleol, a wnaiff yr Aelod Cabinet esbonio pam mae'r cynigion hyn yn cael eu datblygu er gwaethaf anfodlonrwydd clir ymhlith y rhai y byddant yn effeithio arnynt fwyaf?”
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n cydbwyso anghenion cynaliadwyedd amgylcheddol cymunedol a hyfywedd economaidd. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn i ddatblygu'r strategaeth ac mae wedi ymrwymo i barhau i gydweithio i gyflawni'r newidiadau hyn mewn ffordd sy'n gwella'r gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn ei dderbyn. Mae hyn yn cynyddu'r gwastraff sy'n cael ei ailgylchu ac yn sicrhau effeithlonrwydd cost ar gyfer y tymor hir. Cawsom eich gohebiaeth ar y mater hwn a byddem yn anfon ymateb llawn yn dilyn y cyfarfod hwn.
Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i dynnu sylw ei fod hefyd wedi derbyn llythyr gan Mr Davies yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd y blaid Geidwadol yn Llanelli. Ymateb ar y cyd gan yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith i ymateb i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2023-2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2023-2024.
Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2023-24 ar 1 Mawrth 2024.
Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn y flwyddyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2023-2024 yn cael ei gymeradwyo. |
|
RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar ragolwg ariannol presennol y Cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf am y model ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Amlinellodd yr adroddiad y cynigion ar gyfer paratoi'r gyllideb am y flwyddyn nesaf.
Dywedwyd bod hwn yn amser pryderus i bawb yn y Cyngor ac i lywodraeth leol ledled Cymru. Mae trafodaethau sy'n cael eu cynnal ar draws y wlad gydag Arweinwyr ac Aelodau'r Cabinet yn nodi pryder sylweddol mewn perthynas â gallu'r Llywodraethau Lleol i ariannu'r bwlch. Codwyd y dylid gwneud darn pwysig o waith yn ystod y misoedd nesaf, o ran lobïo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogau a chynnydd mewn prisiau yn cael eu hariannu'n ddigonol dros y flwyddyn ariannol nesaf a'r tymor canolig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
7.1 derbyn y rhagolwg cyllidebol cychwynnol ar gyfer 2025/26 i 2027/28; 7.2 cymeradwyo'r dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol; 7.3 cymeradwyo'r dull arfaethedig o Ymgynghori ynghylch y Gyllideb.</AI8>
|
|
CYMERADWYO PENODI'R CYNGHORYDD DERYK CUNDY I SEDD WAG Y GRWP LLAFUR AR BANEL YMGYNGHOROL Y GWEITHGOR GWLEDIG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Deryk Cundy i sedd wag y Gr?p Llafur ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Gwledig.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|