Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Davies, G. Davies a L.D. Evans.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 13EG O FAI 2024 PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Mai 2024 yn gofnod cywir.
</AI3>
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
STRATEGAETH MASNACHEIDDIO PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet y Strategaeth Fasnacheiddio a gafodd ei datblygu i ddarparu ar gyfer dull mwy strategol o ddatblygu a gweithredu gweithgareddau cynhyrchu incwm ar draws y Cyngor.
Cynhyrchu incwm/masnacheiddio yw un o'r prif flaenoriaethau yn Strategaeth Trawsnewid y Cyngor a gall chwarae rhan hanfodol wrth helpu i liniaru effaith yr heriau sylweddol yn y gyllideb y mae'r Cyngor yn debygol o barhau i'w hwynebu yn y tymor byr i'r tymor canolig.
Cyfeiriwyd at bwysigrwydd strategaethau fel hyn dros y blynyddoedd nesaf i helpu i greu incwm.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth Fasnacheiddio.
|
|
CYNLLUN YNNI ARDAL LEOL SIR GAERFYRDDIN PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Gaerfyrddin a gafodd ei lunio yn unol â gofyniad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon t? gwydr yng Nghymru i sero net erbyn 2050. Mae'r gwaith o lunio Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ofynnol bod pob Cynllun yn cael ei gymeradwyo gan Gabinet pob Awdurdod Lleol perthnasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ynni ardal leol i sicrhau bod gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gynllun ynni ardal leol erbyn canol 2024. Mae Cynllunio Ynni Ardal Leol yn broses gynhwysfawr a manwl a gynlluniwyd i nodi'r llwybr(au) mwyaf effeithiol i ddatgarboneiddio'r system ynni leol erbyn 2050. Mae'r broses yn cael ei harwain gan Lywodraeth Leol a'i datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid diffiniedig. Er eu bod wedi'u llunio ar wahân ac wedi'u teilwra i'r dirwedd leol, bydd y tri chynllun ynni ardal leol yn cael eu halinio'n rhanbarthol i helpu i sicrhau cysondeb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Gaerfyrddin yn cael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi.
8 </AI8>
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|