Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2024 yn gofnod cywir.
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod un cwestiwn wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
CWESTIWN GAN MR HAVARD HUGHES I'R CYNG. DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR: “Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i osgoi gwrthdaro buddiannau posibl rhwng buddsoddiad cronfa bensiwn Sir Gaerfyrddin yn Bute Energy a’r ffaith y bydd agweddau o brosiectau peilonau Bute Energy gan gynnwys yr is-orsaf yn Llandyfaelog yn cael eu pennu’n lleol gan Gynghorwyr Sir a swyddogion gyda phensiynau dibynnol ar lwyddiant prosiectau Bute Energy?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: "Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i osgoi gwrthdaro buddiannau posibl rhwng buddsoddiad cronfa bensiwn Sir Gaerfyrddin yn Bute Energy a’r ffaith y bydd agweddau o brosiectau peilonau Bute Energy gan gynnwys yr is-orsaf yn Llandyfaelog yn cael eu pennu’n lleol gan Gynghorwyr Sir a swyddogion gyda phensiynau sy'n ddibynnol ar lwyddiant prosiectau Bute Energy?”
Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-
“Diolch ichi Mr. Hughes am y cwestiwn. Mae aelodau, fel y byddech yn ei ddisgwyl, yn gyfarwydd iawn â gofynion y Côd Ymddygiad ar gyfer datgan buddiannau, hynny yw lle mae ganddynt fuddiant i'w ddatgan, felly rwy'n si?r y bydd unrhyw aelodau sy'n aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - ac nid yw pob aelod o reidrwydd - yn gofyn am gyngor gan y Swyddog Monitro pryd y bydd penderfyniadau sy'n gysylltiedig â GreenGEN Cymru yn codi. Yn sicr, fel Arweinydd y Cyngor, byddaf yn annog aelodau i ofyn am y cyngor hwnnw.
Byddwch hefyd yn ymwybodol bod swyddogion yn
yr un modd yn rhwym wrth Gôd Ymddygiad. Fodd bynnag, mae'n
bwysig gwneud nifer o bwyntiau yma, sy'n codi'n uniongyrchol o'ch
cwestiwn.Mae'r pwynt cyntaf yn ymwneud
â'ch defnydd o'r term 'buddsoddiad Cronfa Bensiwn Sir
Gaerfyrddin'. Gadewch i ni fod yn glir - nid oes y fath beth
â Chronfa Bensiwn Sir Gaerfyrddin. Nid wyf yn si?r a yw
defnydd o'r term 'Sir Gaerfyrddin' ar eich rhan yn
gamddealltwriaeth ai peidio, ond beth bynnag y bo, byddaf yn ceisio
darparu rhywfaint o gyd-destun er mwyn osgoi
amheuaeth. Mae swyddogion
a rhai cynghorwyr mewn gwirionedd yn aelodau o Gronfa Bensiwn
Dyfed, sy'n gorff annibynnol ar wahân sy'n gyfrifol am ymdrin
â chronfeydd pensiwn sy'n berthnasol i weithwyr o tua 50 o
sefydliadau ledled Sir Benfro, Ceredigion ac yma yn Sir
Gaerfyrddin. Mae'r cyrff hyn
yn cynnwys, ymysg eraill, Cyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion,
Prifysgol Aberystwyth, Coleg Sir Gâr, Heddlu Dyfed-Powys,
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Coleg
Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Penfro,
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â Chyngor Sir
Caerfyrddin a llu o Gynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau
eraill.
Rydym bellach yn gwybod mai ymrwymiad y Gronfa Bensiwn yw buddsoddi mewn ffermydd gwynt Bute Energy, ac mae'n bwysig pwysleisio 'ffermydd gwynt' gan nad yw Cronfa Bensiwn Dyfed wedi buddsoddi'n uniongyrchol yn y seilwaith arfaethedig yn Nyffrynnoedd Tywi a Theifi .Gwyddom hefyd fod y penderfyniad i fuddsoddi yn y ffermydd gwynt yn ôl-ddyddio'r llythyron a gyhoeddwyd gan (GGENC)/Bute Energy ym mis Ionawr 2023, a oedd yn darparu ymwybyddiaeth eang wrth gwrs o'r cynlluniau seilwaith ar gyfer y cynllun a elwir yn 'Tywi Wysg'; felly nid oedd Cronfa Bensiwn Dyfed ar yr adeg pan wnaed yr ymrwymiad i fuddsoddi yn ymwybodol bryd hynny y byddai ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1 |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO YNGHYLCH CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 184 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 29 Chwefror 2024, o ran 2023/24.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £8,472k ac yn rhagweld gorwariant o £4,394k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.
Mae'r Cyfrif Refeniw Tai a nodir yn Atodiad B yr adroddiad yn rhagweld gorwariant o £46k ar gyfer 2023/24. Nododd y Cabinet y byddai'r sefyllfa'n cael ei hadolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
DIWEDDARIAD RHAGLEN GYFALAF 2023/24 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2023/24, fel yr oedd ar 29 Chwefror 2024 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau ariannol i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Nododd Atodiad A i'r adroddiad wariant net a ragwelir o £80,059k o gymharu â chyllideb net weithredol o £140,625k, gan roi amrywiad o -£60,482k.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth a llithriad o 2022/23. Roedd rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig ar adeg cymeradwyo'r rhaglen, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn. Cyfanswm alldro'r prosiect ar gyfer y flwyddyn oedd £134m gros, sydd £32m yn fwy na'r alldro terfynol o 2022-23. Roedd y gwariant hwn i'w briodoli i wariant sylweddol ar y rhaglen Cyfrif Refeniw Tai, a Phentre Awel.
Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
PRYDLES HEN LYS CASTELLNEWYDD EMLYN I GYNGOR TREF CASTELLNEWYDD EMLYN PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.A.L Evans y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynigion i'r Cyngor brydles hen Lys Castellnewydd Emlyn i Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn er mwyn galluogi'r safle i gael ei ddefnyddio at ddibenion adfywio cymunedol.
Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod cyflwr y safle wedi dirywio ers i'r gwasanaeth llyfrgelloedd adael, ac nad oedd unrhyw ddefnydd ymarferol arall gan y Cyngor Sir ar gyfer y safle. Yn ogystal, roedd ymarfer ymgynghori cyhoeddus wedi nodi awydd i'w gadw a'i adnewyddu i fod yn ganolfan aml-ddefnydd / hwb cymunedol yn unol â nod y Cyngor Tref o ddiogelu dyfodol yr adeilad er budd trigolion y Dref.
Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet y byddai'r Cyngor Tref yn ceisio sicrhau cyllid o tua £25,000 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) i wneud y gwaith adnewyddu angenrheidiol ar y safle, gyda chyllid yn amodol ar y Cyngor Tref yn cael prydles o dymor digonol yn y safle. Yn unol â hynny, cynigiwyd bod y Cyngor yn rhoi prydles am gyfnod o 21 mlynedd am rent hedyn pupur ar yr amod y byddai'r Cyngor Tref yn gyfrifol am yr holl waith atgyweirio, cynnal a chadw, yswiriant a gwariant sy'n gysylltiedig â'r safle o dan y brydles.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno i'r Cyngor Sir ymrwymo i brydles am 21 mlynedd ar rent hedyn pupur gyda Chyngor Tref Castellnewydd Emlyn.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|