Agenda a chofnodion drafft

Cabinet - Dydd Llun, 29ain Ebrill, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Price, y Cadeirydd, a oedd wrthi’n ymwneud â mater arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor, a gan y Cynghorydd J. Tremlett.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

</AI2><AI3>

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 15EG EBRILL, 2024 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 15eg Ebrill 2024 yn gofnod cywir.

</AI4>

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH GWEITHLU 2024-2029 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Gweithlu 2024-2029 sy'n nodi 5 Amcan Strategol y Gweithlu sy'n nodi sut rydym yn bwriadu datblygu ein gweithlu presennol ac yn y dyfodol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr amgylchedd a'r gwerthoedd cywir i gyflawni ein Strategaeth Gorfforaethol.

 

Amcan Strategol y Gweithlu 1: Denu, recriwtio a chadw talent

Amcan Strategol y Gweithlu 2: Tyfu Arweinwyr a Rheolwyr Eithriadol

Amcan Strategol y Gweithlu 3: Gwella Ymgysylltiad y Gweithlu

Amcan Strategol y Gweithlu 4: Datblygu Diwylliant Perfformiad Uchel, Blaengar a Chyflawni

Amcan Strategol y Gweithlu 5: Datblygu a Chynnal Gweithle Diogel ac Iachus

 

Nodwyd bod adolygu, datblygu a gweithredu Strategaeth y Gweithlu yn flaenoriaeth yn Strategaeth Trawsnewid yr Awdurdod.

 

Mae cynllun cyflawni 5 mlynedd cynhwysfawr ar waith ochr yn ochr â'r strategaeth hon, a fydd yn cael ei adolygu'n barhaus. O ran mesur llwyddiant, roedd fframwaith rheoli perfformiad wrthi'n cael ei ddatblygu a fydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd a bydd yn sail i ddangosfwrdd / cyfres ddata Rheoli Perfformiad y Gweithlu newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Gweithlu 2024-2029.

 </AI6>

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-23 BYRDDAU DIOGELU PLANT AC OEDOLION CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru 2022-23. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn erbyn y canlyniadau a osodwyd gan CYSUR a CWMPAS fel rhan o'r Cynllun Strategol Blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn 2022-23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru 2022-23.

 

8.

POLISI ABSENOLDEB GOFALWYR pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Polisi Absenoldeb Gofalwyr sy'n nodi ymrwymiad yr awdurdod i gefnogi gofalwyr a'r weithdrefn ar gyfer rheoli cais gan weithiwr am Absenoldeb Gofalwyr yn unol â Deddf Absenoldeb Gofalwyr 2023. 

 

Er i Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr 2023 ddod i rym ar 24 Mai 2023, roedd yn ofynnol i reoliadau nodi sut y byddai'r hawl yn gweithio. Mae'r rhain bellach wedi'u gweithredu gan y Senedd a daethant i rym ar 6 Ebrill 2024 ac o'r dyddiad hwn bydd gan weithwyr hawl statudol i wythnos o absenoldeb di-dâl i ofalu am ddibynnydd.

  

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Absenoldeb Gofalwyr. </AI10>

 

9.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL (CCA) DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018- 2033 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.

 

Fel rhan o'r gwaith o weithredu cynnwys y CDLl Diwygiedig, yn aml mae'n angenrheidiol i bolisïau gael eu cefnogi gan ganllawiau atodol. Bwriad y canllawiau hyn yw cynorthwyo'r gwaith o ddehongli a defnyddio polisïau a chynigion yn y Cynllun. Caiff y rhain eu llunio ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol y mae'n ofynnol cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar eu cynnwys cyn eu mabwysiadu.

 

Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft yn dilyn cyhoeddiad yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n nodi strategaeth, gweledigaeth, polisïau strategol a phenodol, cynigion a dyraniadau datblygu yn ogystal â meysydd lle mae polisïau wedi'u cynllunio i ddiogelu a gwella'r amgylchedd rhag datblygiad amhriodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

9.1      cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Canllawiau Cynllunio

Atodol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei chyhoeddi ar gyfer          ymgynghori cyhoeddus ffurfiol

9.2      rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion i ddiweddaru neu newid unrhyw wallau ffeithiol, teipio neu ramadegol.

 

 

10.

CYNNIG I FFEDEREIDDIO YSGOL RHYS PRITCHARD AC YSGOL LLANGADOG. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch adborth cychwynnol a chynnig i roi'r gorau i'r ymgynghoriad presennol ar ffedereiddio Ysgol Rhys Pritchard ac Ysgol Llangadog.  

 

Yn unol â'r polisi a'r broses y cytunwyd arnynt, ymgynghorodd swyddogion yn ffurfiol ar ffedereiddio Ysgol Rhys Pritchard ac Ysgol Llangadog gyda'r nod o greu cymuned ddysgu gynaliadwy yn yr ardal hon yn Sir Gaerfyrddin. Y cynnig yw ffedereiddio'r ysgolion dan reolaeth un Corff Llywodraethu a phenodi un Pennaeth i arwain y ddwy ysgol. Dechreuodd yr ymgynghoriad ffurfiol ar 9 Ebrill a disgwylir iddo ddod i ben ar 20 Mai.

 

Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gasglu barn llywodraethwyr, staff ysgolion, rhieni, disgyblion, cynghorwyr lleol, cynghorwyr cymuned, Estyn, undebau a rhanddeiliaid eraill. Derbyniwyd gohebiaeth ac adborth gan lywodraethwyr a staff yn nodi eu bod yn teimlo na fu digon o drafodaethau anffurfiol gyda nhw'n uniongyrchol cyn lansio'r ymgynghoriad ffurfiol.

 

Ar ôl ystyried y canllawiau a'r adborth perthnasol gan randdeiliaid allweddol, cynigiwyd rhoi'r gorau i'r ymgynghoriad presennol er mwyn gallu gwneud rhagor o waith gyda'r ddwy ysgol yn y Cyfnod Archwilio a Pharatoi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1    rhoi'r gorau i'r ymgynghoriad presennol ynghylch ffedereiddio

          Ysgol Rhys Pritchard ac Ysgol Llangadog i ganiatáu trafodaeth anffurfiol bellach gyda'r Llywodraethwyr a staff yr ysgol;

10.2   diweddaru'r Strategaeth Ffedereiddio ac adolygu'r broses ar gyfer ffederasiynau a arweinir gan Awdurdodau Lleol.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim eitemau brys i'w hystyried.