Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.A.L. Evans.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. </AI2>
|
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar yr 18eg Mawrth 2024 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25ain Mawrth 2024 yn gofnod cywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd |
|
DIOGELU CYFLOGAETH (POLISÏAU / CANLLAWIAU DIWYGIEDIG A NEWYDD) PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn nodi diwygiadau a wnaed i Ganllawiau DBS yr Awdurdod, a oedd wedi'u diweddaru i gynnwys prosesau diwygiedig o ran asesiadau risg a phrosesau uwchgyfeirio ar gyfer recriwtwyr nad ydynt yn cydymffurfio.
Diweddarwyd y canllawiau manylach hyn yn dilyn archwiliad gan ein Swyddog Diogelu mewn Cyflogaeth ac ar ôl ymgynghori â rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gwnaeth y Gr?p Diogelu Corfforaethol ddiwygiadau pellach hefyd i sicrhau bod yr argymhellion diweddar gan Archwilio Cymru yn cael eu hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 cynmeradwyo Canllawiau diwygiedig GDG, a ddiweddarwyd i gynnwys y broses ddiwygiedig o amgylch asesiadau risg a phroses uwchgyfeirio ar gyfer recriwtwyr nad ydynt yn cydymffurfio, fel y’i hatodwyd i’r adroddiad;
6.2 fabwysiadu'r polisïau canlynol, fel y’u hatodwyd i’r adroddiad:- (1) Polisi Recriwtio Mwy Diogel (2) Polisi Recriwtio Cyn-droseddwyr
|
|
Y RHAGLEN DEG TREF (CRONFA REFENIW) PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried cais yn gofyn am gymorth ariannol o Gronfa Refeniw y Rhaglen Deg Tref.
Mae Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn, ar ran Tîm Cynllun Twf y 10 Tref, yn ceisio cyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu digwyddiadau cenedlaethol a lleol yng Nghastellnewydd Emlyn i helpu i godi'r proffil a chynyddu nifer yr ymwelwyr â'r dref a'r ardal gyfagos. Mae cyllid yn cael ei geisio i gefnogi Pencampwriaethau Prawf Amser a Rasio Ffordd Iau Cenedlaethol Beicio Prydain yng Nghastellnewydd Emlyn ym mis Mehefin 2024. Ar ôl cynnal Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cymru yn 2022 a'r Pencampwriaethau Rasio Ffordd i Ddynion yn 2023 yn llwyddiannus, roedd y cyhoeddiad gan Beicio Prydain y byddai Pencampwriaethau Iau Cenedlaethol 2024 yn cael eu cynnal yng Nghastellnewydd Emlyn yn gyfle pwysig i'r dref godi ei phroffil fel lle i ymweld ag ef ac i aros. Bydd busnesau lleol yn helpu i drefnu'r digwyddiad, gan sicrhau eu bod yn gallu cael cymaint â phosibl o wariant gan ymwelwyr sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais a wnaed gan Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn am gyllid o £14,800 o Gronfa Refeniw y Deg Tref.
|
|
CRONFA GYFALAF Y RHAGLEN DEG TREF - LLANYBYDDER PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried cais yn gofyn am gymorth ariannol o Gronfa Gyfalaf y Rhaglen Deg Tref.
Cyflwynwyd y cais gan Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol, sef elusen yn Llanybydder. Mae ailddatblygu'r ganolfan gymunedol wedi'i nodi fel prosiect blaenoriaeth yng nghynllun twf economaidd y dref, yn ogystal â chan dîm y cynllun twf economaidd. Mae cyllid yn cael ei geisio i adnewyddu ac addasu'r adeilad presennol sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael. Bydd y prosiect yn creu canolfan sy'n cefnogi twf economaidd ac anghenion cymdeithasol y dref drwy ddatblygu:-
- Lle gweithio ar y cyd i fusnesau bach ei logi a'i ddefnyddio - Canolfan dysgu a datblygiad personol - Llogi cyfleusterau digwyddiadau - Caffi
Bydd yr elfennau hyn yn ategu'r gampfa gymunedol bresennol sydd eisoes yn gweithredu yn y ganolfan sy'n darparu ffrwd incwm i sicrhau ei chynaliadwyedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais am grant o £100,000 o Gronfa Gyfalaf 10 Tref yr Awdurdod a £74,294 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin fel rhan o'r rhaglen Angor Gwledig, a gyflwynwyd gan Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol, Llanybydder.
|
|
CYMERADWYO ENWEBIAD Y CYNGHORYDD STEVE WILLIAMS I'W BENODI I GRWP CYDWEITHIO PARC HOWARD (AR Y CYD GYDA CHYNGOR TREF LLANELLI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Steve Williams i wasanaethu ar Gr?p Cydweithredu Parc Howard (ar y cyd â Chyngor Tref Llanelli).
|
|
CYMERADWYO'R NEWIDIADAU GAN Y GRWP LLAFUR I AELODAETH PANELAU YMGYNGHOROL Y CABINET:- · Y Cynghorydd Edward Skinner i lenwi’r lle gwag ar y Panel Ymgynhorol Datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol · Y Cynghorydd Anthony Leyshon i gymryd lle’r Cynghorydd Dot Jones ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Gwledig · Y Cynghorydd Lewis Davies i gymryd y lle gwag diwethaf ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Gwledig Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried y newidiadau canlynol i aelodaeth Paneli Ymgynghorol y Cabinet a gyflwynwyd gan y Gr?p Llafur:-
· Bod y Cynghorydd Edward Skinner yn llenwi'r sedd wag ar Banel Ymgynghorol y Cynllun Datblygu Lleol · Bod y Cynghorydd Anthony Leyshon yn cymryd lle'r Cynghorydd Dot Jones ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Cefn Gwlad · Bod y Cynghorydd Lewis Davies yn llenwi'r sedd wag ddiwethaf ar Banel Ymgynghorol y Gweithgor Cefn Gwlad
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i aelodaeth Paneli Ymgynghorol y Cabinet, fel y nodir uchod.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|