Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. M. Hughes. |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 15eg Ionawr 2024 yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a baratowyd yn dilyn y penderfyniad yn y Cyngor Sir ar 9 Mawrth 2022 i baratoi ail fersiwn Adneuo o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) a chyhoeddiad dilynol y Cynllun ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr heriau parhaus o ran bodloni'r gofynion mewn perthynas â'r rheoliadau cynefinoedd sy'n deillio o ganllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd ac ansawdd d?r a'r angen i sicrhau bod paratoadau'r Cynllun a'r ystyriaeth o gwmpas a chynnwys y Cynllun yn cydymffurfio'n â deddfwriaeth a rheoliadau gweithdrefnol.
Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod i gynnal ymgynghoriad pellach ar y dogfennau ategol canlynol:-
• Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (gan gynnwys Atodiad 1); ac • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (gan gynnwys Atodiadau 1 a 2)
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 Ystyried a chymeradwyo cynnwys yr Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (yn cynnwys Atodiad 1) a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (yn cynnwys Atodiad 1 a 2) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol fel dogfennau ategol i Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin); 6.2 cymeradwyo cyflwyno'r dogfennau a'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad fel rhan o'r archwiliad; 6.3 rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw newidiadau teipograffyddol yn ôl yr angen, i wella eglurder o ran ystyr.</AI7>
|
||||||||||||||||
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - STRATEGAETH (RHMA) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorwyr L.D. Evans ac A. Vaughan-Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn dilyn ei adolygiad diweddar.
Penderfynodd y Cyngor Sir yn 2010 y dylid adolygu'r Rhaglen Moderneiddio Addysg bob dwy flynedd neu fel arall yn ôl yr angen i sicrhau cysondeb ag amserlen Rhaglen genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif (a ailenwyd yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy)
Nodwedd ganolog y Rhaglen Moderneiddio Addysg ers ei sefydlu yw'r angen i gadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau ei bod yn parhau'n gyfredol ac yn ymateb i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg ac anghenion cymdeithas a chymunedau sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn yn fwy amlwg nag erioed yn yr hinsawdd sydd ohoni / ar ôl y pandemig. Mae adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, yn unol â'r gofyniad i gyflwyno rhaglen amlinellol strategol ar gyfer y rhaglen dreigl newydd erbyn mis Mawrth 2024.
O ganlyniad, datblygwyd Strategaeth newydd ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio Addysg i gyfarwyddo cyflawni’r Rhaglen Moderneiddio Addysg newydd yn y dyfodol. Mae'n cael ei harwain gan set o amcanion strategol a'i thanategu gan ddarnau diben ac egwyddorion addysgol yr adran i sicrhau cydlyniad â'r 8 Blaenoriaeth Addysg ar gyfer 2022-2025 a strategaeth Addysg Sir Gâr 2022-2032. Mae strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cynnwys set o feini prawf hyfywedd a buddsoddi i sicrhau dull priodol a thryloyw o ddatblygu trefniadaeth ysgolion a chynigion buddsoddi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo Strategaeth ddiwygiedig y Rhaglen Moderneiddio Addysg |
||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWR AR RAN YR AWDURDOD LLEOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Yn dilyn datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ni fu'r Cynghorydd G. Davies yn rhan o'r broses o'i hystyried nac o ddod i benderfyniad arni.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y ffaith bod y Cynghorydd Glynog Davies yn gwasanaethu fel Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol a Chadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Brynaman. Mae ei gyfnod presennol yn y swydd yn dod i ben ar 31 Ionawr ac mae wedi mynegi diddordeb mewn cael ei ailbenodi i'r swydd am dymor arall yn y swydd.
O dan amgylchiadau arferol, penodir Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol gan y Cynghorydd Glynog Davies ei hun yn ei rôl fel Aelod Cabinet dros Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg. Fodd bynnag, o ystyried yr amgylchiadau, roedd yn cael ei ddwyn gerbron y Cabinet i'w ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ailbenodi'r Cynghorydd Glynog Davies i swydd Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gynradd Brynaman am dymor arall yn y swydd.
|
||||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|
||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||||||||
TIR DATBLYGU PRESWYL YN FFERM MYDDYNFYCH, BONLLWYN, RHYDAMAN Cofnodion:
[NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.A.L. Evans y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar werthiant arfaethedig tir mewn perthynas â datblygiad preswyl yn Fferm Myddynfych, Bonllwyn, Rhydaman.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar werthu'r tir, ar y telerau ac amodau y manylir arnynt yn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||
PRYNU EIDDO YNG NGHANOL TREF CAERFYRDDIN Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth hon danseilio'r perchennog tir presennol a safle'r Cyngor mewn unrhyw drafodaethau yngl?n â hyn ac eiddo tebyg arall yn y sir, ar draul y pwrs cyhoeddus a pheri risg i'r prosiect hwn a phrosiectau adfywio tebyg eraill.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar gynnig i brynu eiddo yng Nghanol Tref Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
13.1 bod y bwriad i brynu'r brydles o ran yr eiddo yng nghanol tref Caerfyrddin a nodwyd yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar gymeradwyo’r telerau prynu, o fewn y paramedrau y cytunwyd arnynt gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Adnoddau. 13.2 bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i gwblhau'r telerau prynu a chwblhau'r pryniant. |