Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 23ain Tachwedd, 2020 4.00 yp, NEWYDD

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

YMESTYN DIWRNODAU PARCIO AM DDIM I FIS RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i ganiatáu i ddiwrnodau parcio am ddim gael eu cymryd ym mis Rhagfyr 2020 fel eithriad er mwyn cefnogi adferiad economaidd y trefi yn ystod pandemig Covid-19.

 

Roedd polisi cyfredol y Cyngor yn cynnig pum diwrnod parcio am ddim bob blwyddyn i gefnogi canol trefi ond nid oedd yn cynnwys cyfnod masnachu mis Rhagfyr. Roedd rhai canol trefi wedi cysylltu â'r Cyngor i ofyn i fis Rhagfyr gael ei gynnwys yn y cynnig eleni oherwydd yr amgylchiadau eithriadol a achoswyd gan bandemig COVID19. Roedd y Cyngor wedi cefnogi canol trefi gyda pharcio am ddim o fis Mawrth i fis Medi eleni a pharhad y cynlluniau peilot i barcio am ddim sydd ar waith ym mhob tref. Byddai'r cais diweddaraf yn helpu i ddarparu cymorth pellach ar yr adeg anodd hon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo ymestyn parcio am ddim ym mis Rhagfyr yn ystod 2020 yn unig.

 

6.

TALIAD BRYS DROS DRO I STAFF GOFAL (I GEFNOGI STAFFIO MEWN CARTREFI GOFAL PREIFAT) pdf eicon PDF 445 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd, yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod wedi penderfynu caniatáu i'r eitem ganlynol gael ei hystyried yn fater brys yn y cyfarfod hwn gan fod angen gweithredu cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd. Roedd yr adroddiad wedi'i gynnwys ar Agenda ddiwygiedig a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod.

Yn unol â hyn, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am awdurdod i roi trefniant ar waith i weithredu taliad brys dros dro i gefnogi cartrefi gofal preifat a oedd yn wynebu prinder staff ar fyr rybudd o ganlyniad i'r pandemig COVID 19. Byddai'r taliad brys yn berthnasol dim ond pan fyddai achosion penodol lle roedd cyflenwad staffio mewn cartrefi Gofal Preifat yn cael ei beryglu oherwydd hunanynsyu statudol a chanlyniadau positif o ran Covid19 ymhlith staff cartrefi gofal preifat, lle nad oes digon o staff i ddarparu gofal. Eglurwyd bod portffolios Aelodau'r Bwrdd Gweithredol wedi'u gosod yn anfwriadol wrth ymyl yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol anghywir ac y dylai'r cyfeiriad yn yr adroddiad at 'gyfalaf ICF'  gyfeirio at 'refeniw ICF’ yn lle hynny.

 

Nodwyd na fyddai unrhyw gost ychwanegol i'r Awdurdod, gan y byddai'r rhain yn cael eu hawlio'n llawn o'r cartref Gofal Preifat perthnasol yr oedd angen cymorth arno. Croesawodd yr Aelodau'r adroddiad ac unwaith eto talwyd teyrnged i holl staff y cartref gofal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r trefniant o ran taliad brys dros dro i staff cartrefi gofal i gefnogi cartrefi gofal preifat sy'n wynebu prinder staff ar fyr rybudd o ganlyniad i'r pandemig COVID 19.

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.