Agenda a Chofnodion

CYLLIDEB, Cabinet - Dydd Llun, 8fed Chwefror, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Original Budget Date 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Hazel Evans

6 - Cynnig i Newid Natur y Ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model

Yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dyddewi.

Glynog Davies

14 - Adeilad Rhodfa'r Goron, Llanelli

Mae ganddo fuddiant personol a rhagfarnol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

3.1

18FED IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.

3.2

25AIN IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL GYNRADD WG MODEL pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan i'r Cynghorydd H. Evans ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cynnig gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn nodi ei gynigion y byddai natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.

 

Byddai'r newid ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen ac ni fyddai'n effeithio ar ddisgyblion presennol yr ysgol.

 

Dywedwyd bod y cynnig yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol wrth symud ysgolion y sir ar hyd y continwwm Cymraeg.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod cymeradwyaeth yn cael ei cheisio i gychwyn ymgynghori ffurfiol yn unig, a oedd yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru.  Awgrymwyd y dylai'r Awdurdod ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn gofyn iddo egluro'n gyhoeddus y rheoliad mewn perthynas ag ymgynghoriadau. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'n ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ynghylch hynny.


 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO:

 

6.1

Y cynnig fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn y ddogfen ymgynghori;

6.2

Bod y swyddogion yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig;

6.3

Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

 

7.

CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y FELIN pdf eicon PDF 379 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn nodi ei gynigion y byddai natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.

 

Byddai'r newid ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen ac ni fyddai'n effeithio ar ddisgyblion presennol yr ysgol.

 

Dywedwyd bod y cynnig yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol wrth symud ysgolion y sir ar hyd y continwwm Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO:

 

7.1

Y cynnig fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac yn y ddogfen ymgynghori;

7.2

Bod y swyddogion yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig;

7.3

Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2019-20 pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad wedi'i dynnu'n ôl.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2019-20 pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.

TIR YM MHENPRYS, LLANELLI

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn rhoi'r awdurdod dan anfantais mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio pwrs y wlad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i waredu tir sy'n eiddo i'r cyngor ym Mhenprys, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo dirprwyo'r awdurdod hwnnw i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriadâ'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, i drafod telerau ac ymrwymo i gytundeb opsiynau gyda'r tirfeddiannwr cyfagos ym Mhenprys, Llanelli.

13.

LLAIN 4 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn rhoi'r awdurdod dan anfantais mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio pwrs y wlad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar gynigion i waredu tir sy'n eiddo i'r cyngor yn Llain 4, Parc Manwerthu Trostre, Llanelli. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo'r bwriad i waredu tir yn Llain 4, Parc Manwerthu Trostre, Llanelli ar y telerau a nodir yn yr adroddiad.

14.

ADEILAD RHODFA'R GORON, LLANELLI

Cofnodion:

[SYLWER: Gan i'r Cynghorydd G. Davies ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cynnig gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd o ran yr adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn rhoi'r awdurdod dan anfantais mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon ac o bosibl yn niweidio pwrs y wlad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn cynnig gwaredu adeilad Rhodfa'r Goron yng nghanol tref Llanelli i gefnogi'r gwaith o adnewyddu / ymestyn Adeilad cyfagos y Goron.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo gwaredu Adeilad Rhodfa'r Goron, Llanelli ar y telerau a nodir yn yr adroddiad.