Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas. 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019 yn gofnod cywir.
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad arFersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau ar y gwaith o baratoi cynllun diwygiedig a oedd yn cynrychioli carreg filltir bwysig i’r Cyngor o ran cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i baratoi cynllun cyfredol ar gyfer y Sir (ac eithrio'r ardal sy'n dod o fewn awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)
Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys 344 o sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 12 Rhagfyr, 2018 a'r 8 Chwefror, 2018. Roedd y sylwadau hynny, ynghyd ag ymatebion ac argymhellion y swyddogion a chefndir y strategaeth a ffefrir, wedi’u cynnwys yn yr atodiadau canlynol i'r adroddiad:-
· Atodiad 1 – Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir – Cefndir; · Atodiad 2 – Strategaeth a Ffefrir – Crynodeb o'r Sylwadau a'r Ymatebion -Argymhellion; · Atodiad 3 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law; · Atodiad 4 – Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – sylwadau a ddaeth i law; · Atodiad 5 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cwmpasu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law
Tynnwyd sylw'r Bwrdd Gweithredol at sylwadau Llywodraeth Cymru lle cyfeiriwyd at y ffaith bod yn rhaid i'r Cyngor sicrhau bod y Cynllun yn rhoi sylw i'r Llawlyfr Drafft (Argraffiad 3) Pennod 5: Paratoi CDLl (Materion Craidd) a oedd yn manylu ar y materion allweddol y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt. Er nad oedd y Llawlyfr Drafft wedi dod i law eto, rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd y byddai'r elfennau perthnasol yn cael sylw yn y Cynllun. Nodwyd hefyd y bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yr wythnos honno, ac y byddai unrhyw argymhellion/canfyddiadau yn cael eu cyflwyno'n uniongyrchol i'r Cyngor ar 15 Mai.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR :-
|
|||||||
CAIS I’R GRONFA DDATBLYGU PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cais a gyflwynwyd gan yr Adran Cymunedau i Gronfa Ddatblygu'r Cyngor i gael cymorth ariannol i ddarparu Cwrs Golff Bach ar ffurf thema ym Mharc Gwledig Pen-bre, sy’n gyfanswm o £150k, i'w ad-dalu dros gyfnod o bedair blynedd.
Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar y Gronfa Ddatblygu a nododd fod swm o £164k ar gael ar unwaith i'w ddyrannu ar gyfer cynlluniau newydd, a gofynnwyd hefyd i'r Bwrdd ystyried gohirio'r ad-daliad tan 2021/22 o'r trosglwyddiad blaenorol o £500K i'r Gronfa Ddatblygu o'r Gronfa wrth Gefn a glustnodwyd ar gyfer Yswiriant yn 2016/17, er mwyn sicrhau bod arian ychwanegol ar gael ar gyfer ceisiadau diweddar.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.
|
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||
CONTRACTAU TAITH PRYDAIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 9 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol fanwl yn ymwneud â chontractau Taith Prydain.Er y byddai'r cyhoedd o blaid tryloywder a bod yn agored, roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan brawf budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd oherwydd yr angen i ddiogelu elfennau ariannol y Cyngor pe bai'n gwneud cais am unrhyw ddigwyddiadau pellach o'r fath.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gontractau arfaethedig i'r awdurdod gynnal cymalau Taith Prydain yn y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr argymhellion yn yr adroddiad i'r awdurdod ymrwymo i gontractau i gynnal cymalau Taith Prydain yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cymeradwyo.
|