Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 17eg Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Price, y Cadeirydd, a oedd wrthi’n ymwneud â mater arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Swyddog

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J. Jones - Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol

55       10 - Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Ceisiadau Strategol Annibynnol

Mae wedi'i enwi fel ail ymgeisydd ar un o'r prosiectau.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR Y 3 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.<AI9>

 

6.

TRAWSNEWID GWASANAETHAU MAMOLAETH A'R BLYNYDDOEDD CYNNAR: STRATEGAETH Y BLYNYDDOEDD CYNNAR AR GYFER GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar Gorllewin Cymru.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro mewn ymateb i Raglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar yr angen am wasanaeth blynyddoedd cynnar cydgysylltiedig ac ymatebol i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

 

Fel rhan o'r rhaglen drawsnewid, mae angen profi a threialu ffyrdd arloesol o weithio, ac o ganlyniad mae swyddogion yn Sir Gaerfyrddin wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu Tîm Integredig Blynyddoedd Cynnar peilot yng Nghwm Gwendraeth. Tîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol yw hwn (Bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd a Therapyddion Lleferydd ac Iaith), gweithwyr proffesiynol yr Awdurdod Lleol (Swyddogion Cymorth i Deuluoedd a Chysylltydd Cymunedol).  

 

Ar lefel ranbarthol, sefydlwyd Gr?p Llywio Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar yn 2019 ac mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu Strategaeth Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer y rhanbarth, gan nodi gweledigaeth, amcanion a blaenoriaethau cytunedig ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n gweithio yn y sector Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yr Awdurdod Lleol a sefydliadau'r trydydd sector.

 

Erbyn mis Gorffennaf 2022 roedd y broses o ddatblygu'r strategaeth bron wedi'i chwblhau a chymerodd trawstoriad o weithwyr proffesiynol a theuluoedd o bob rhan o'r rhanbarth ran yn y broses ymgynghori drwy grwpiau ffocws ac arolwg ar-lein. Mae'r strategaeth hon ychydig yn wahanol gan ei bod ar y we, yn rhyngweithiol ac yn gryno gan ganiatáu i weithwyr proffesiynol sy'n brin o amser gyrchu'r strategaeth yn ôl yr angen.  Yn dilyn cymeradwyaeth lawn y bwriad oedd lansio'r strategaeth ar draws y rhanbarth.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar Gorllewin Cymru.

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE CABINET RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

9.

ROWND 2 - CRONFA CYMUNEDAU CYNALIADWY

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth danseilio sefyllfa'r sefydliadau dan sylw mewn perthynas â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes gweithgaredd.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o geisiadau a gyflwynwyd o dan y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy (Rownd 2) sy'n cael ei hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1      Dyfarnu cyllid i'r prosiectau a nodir fel yr argymhellwyd gan y         Panel Cyllido ac fel y nodir yn yr adroddiad;    

9.2      Cymeradwyo trosglwyddo £250,000 ychwanegol o elfennau eraill     heb eu dyrannu Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin, oherwydd y            nifer uchel o geisiadau o safon a gyflwynwyd.

 

 

10.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU - CEISIADAU STRATEGOL

Cofnodion:

[NODER:  Gan iddo ddatgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd Mr J. Jones, Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol, y cyfarfod cyn i'r mater gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

7.</AI14>

<AI15>

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn cael effaith andwyol ar yr ymgeiswyr yn y farchnad lle maent yn gweithredu drwy ddatgelu syniadau busnes arloesol cystadleuwyr.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r ceisiadau a gyflwynwyd o dan yr alwad agored am brosiectau strategol annibynnol o fewn blaenoriaethau Cymunedau a Lle a Chefnogi Busnesau Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1    Dyfarnu cyllid i'r prosiectau a nodir yn Atodiad 1 ac Atodiad 2,   fel      y nodir yn yr adroddiad;

10.2    Cymeradwyo argymhellion y Bartneriaeth Adfywio mewn perthynas ag ailddosbarthu cyllid a allai ddod yn ôl i'r gyllideb o £5.85m ar gyfer yr alwad hon.

 

11.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU - CEISIADAU STRATEGOL - POBL A SGILIAU A LLUOSI

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn cael effaith andwyol ar yr ymgeiswyr yn y farchnad lle maent yn gweithredu drwy ddatgelu syniadau busnes arloesol cystadleuwyr.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r ceisiadau Strategol Annibynnol a gyflwynwyd o dan yr alwad agored ar gyfer y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau ac amcanion Lluosi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddyfarnu cyllid i'r prosiectau a nodir yn Atodiad 1 ac Atodiad 2, fel yr argymhellwyd gan y Bartneriaeth Adfywio, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

12.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU - Y GRONFA SGILIAU A'R GRONFA CYFLOGADWYEDDD

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth danseilio sefyllfa'r sefydliadau dan sylw mewn perthynas â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes gweithgaredd.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o geisiadau a gyflwynwyd o dan y Gronfa Sgiliau a'r Gronfa Cyflogadwyedd, sy'n cael eu hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ddyfarnu cyllid i'r prosiectau a nodir yn Nhabl 2 a Thabl 3, fel yr argymhellwyd gan y Panel Cyllido, fel y nodir yn yr adroddiad.